Search form

Deuteronomium 4

Moses yn annog y bobl i fod yn ufudd i Dduw

1“Bobl Israel, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n eu gosod i chi, er mwyn i chi gael byw a mynd i mewn i gymryd y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi i chi. 2Peidiwch ychwanegu dim, na chymryd dim i ffwrdd. Gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw ydyn nhw, felly cadwch nhw! 3Gwelsoch beth wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor. Lladdodd yr ARGLWYDD bawb wnaeth addoli duw Baal-peor.- 4Ond mae pawb ohonoch chi wnaeth aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, yn dal yn fyw. 5Gwrandwch, dw i'n dysgu i chi'r rheolau a'r canllawiau mae Duw wedi'u rhoi i mi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad dych chi'n mynd iddi i'w chymryd drosodd. 6Felly, cadwch nhw. Dilynwch nhw. A phan fydd pobl yn dysgu amdanyn nhw, byddan nhw'n dweud, ‘Mae'n wir, mae pobl y wlad yma yn ddoeth a deallus.’

7“Pa genedl arall sydd â duw sydd mor agos atyn nhw? Mae'r ARGLWYDD ein Duw yna bob tro dŷn ni'n galw arno. 8A pha wlad arall sydd â rheolau a chanllawiau mor deg â'r casgliad yma o gyfreithiau dw i'n ei rannu gyda chi heddiw?

9“Ond dw i'n dweud eto, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus. Peidiwch anghofio beth dych chi wedi'i weld. Peidiwch anghofio nhw tra byddwch chi byw. Dysgwch nhw i'ch plant a'ch wyrion a'ch wyresau. 10Pan oeddech chi'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD eich Duw wrth droed Mynydd Sinai,+ dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Casgla'r bobl at ei gilydd, i mi rannu gyda nhw beth dw i eisiau'i ddweud. Wedyn byddan nhw'n dangos parch ata i tra byddan nhw'n byw yn y wlad, ac yn dysgu eu plant i wneud yr un fath.’

11“Dyma chi'n dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgi'n dân. Roedd fflamau'n codi i fyny i'r awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus. 12Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chi'n clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim. 13A dyma fe'n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud – y Deg Gorchymyn. A dyma fe'n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg. 14Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a chanllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chi'n mynd drosodd i'w chymryd.

Gwahardd gwneud delwau

15Ond byddwch yn ofalus! Wnaethoch chi ddim gweld neb pan oedd yr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân ar Fynydd Sinai. 16Felly peidiwch sbwylio popeth drwy gerfio rhyw fath o ddelw – o ddyn neu ferch, 17anifail, aderyn, 18ymlusgiad, neu bysgodyn. 19Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'u rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd. 20Ond mae wedi'ch dewis chi, a'ch arwain chi allan o ffwrnais haearn gwlad yr Aifft, i fod yn bobl sbesial iddo – a dyna ydych chi!

21“Ond wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi o'ch achos chi. Dwedodd wrtho i na fyddwn i byth yn cael croesi afon Iorddonen a mynd i mewn i'r wlad dda mae e ar fin ei rhoi i chi. 22Dyma ble bydda i'n marw. Ond dych chi'n mynd i groesi'r Iorddonen a chymryd y tir da yna. 23Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'i wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath – mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly. 24Tân sy'n difa ydy Duw! Mae'n Dduw eiddigeddus! 25Pan fyddwch chi wedi bod yn y wlad am amser hir, ac wedi cael plant ac wyrion ac wyresau, peidiwch gwneud drwg i'ch hunain drwy gerfio delw o unrhyw fath. A pheidiwch gwneud pethau drwg eraill sy'n pryfocio'r ARGLWYDD eich Duw. 26Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi – os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n cael eich taflu allan o'r tir yna dych chi ar fin croesi afon Iorddonen i'w gymryd drosodd. Fyddwch chi ddim yn para'n hir yna, achos byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr! 27Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a dim ond criw bach ohonoch chi fydd ar ôl. 28A byddwch chi'n addoli duwiau wedi'u gwneud gan bobl – delwau o bren a charreg sydd ddim yn gallu gweld, clywed, bwyta nac arogli!

29“Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif – â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid – byddwch yn dod o hyd iddo. 30Yng nghanol eich holl drybini, pan fydd y pethau yma'n digwydd rywbryd yn y dyfodol, os gwnewch chi droi'n ôl at yr ARGLWYDD eich Duw a bod yn ufudd iddo, 31fydd e ddim yn eich siomi chi. Mae e'n Dduw trugarog. Fydd e ddim yn eich dinistrio chi, am ei fod yn gwrthod anghofio'r ymrwymiad hwnnw wnaeth e gyda'ch hynafiaid chi. Gwnaeth e addo ar lw iddyn nhw.

Mae Duw yn unigryw

32“Edrychwch yn ôl dros hanes, o'r dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwy'r byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd o'r blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth? 33Oes unrhyw genedl arall wedi clywed llais Duw yn siarad â nhw o ganol y tân, fel gwnaethoch chi, ac wedi byw i adrodd yr hanes? 34Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddo'i hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ymladd drostyn nhw gyda'i nerth rhyfeddol, a gwneud yr holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chi'r ARGLWYDD eich Duw yn eu gwneud drosoch chi yn yr Aifft? 35Mae wedi dangos i chi mai Un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. 36Gadawodd i chi glywed ei lais o'r nefoedd, i'ch dysgu chi. Ac ar y ddaear dangosodd i chi'r tân mawr, a siarad â chi o ganol hwnnw. 37Ac am ei fod wedi caru'ch hynafiaid chi, dewisodd fendithio'u disgynyddion. Defnyddiodd ei nerth ei hun i ddod â chi allan o'r Aifft, 38i chi gymryd tir pobloedd cryfach na chi oddi arnyn nhw. Daeth â chi yma heddiw i roi eu tir nhw i chi ei gadw.

39“Felly dw i eisiau i hyn i gyd gael ei argraffu ar eich meddwl chi – dw i eisiau i chi sylweddoli fod Duw yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear. Does dim un arall yn bod! 40Rhaid i chi gadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi a'ch plant. A byddwch chi'n cael byw am amser hir iawn yn y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w gadw.”

Trefi Lloches i'r dwyrain o'r Iorddonen

41Yna dyma Moses yn dewis tair tref i'r dwyrain o afon Iorddonen yn drefi lloches. 42Byddai unrhyw un fyddai'n lladd person arall yn ddamweiniol, heb fwriadu unrhyw ddrwg iddo, yn gallu dianc am loches i un o'r trefi yma. 43Y tair tref oedd Betser, yn anialwch y byrdd-dir, i lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead i lwyth Gad; a Golan yn Bashan i lwyth Manasse.

Cyflwyniad i Gyfraith Dduw

44Dyma'r gyfraith wnaeth Moses ei chyflwyno i bobl Israel – 45y gofynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd e i bobl Israel ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft, 46pan oedden nhw'n dal ar ochr ddwyreiniol afon Iorddonen. Roedden nhw yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor – sef yr ardal oedd yn arfer cael ei rheoli gan Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon. Nhw wnaeth Moses a phobl Israel ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan o'r Aifft. 47Dyma nhw'n cymryd ei dir e, a thir Og, brenin Bashan – y ddau ohonyn nhw'n teyrnasu ar yr ardaloedd i'r dwyrain o'r Iorddonen. 48Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o dref Aroer, ger Dyffryn Arnon, yr holl ffordd i Fynydd Hermon+ yn y gogledd. 49Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd i'r Môr Marw+ o dan lethrau Mynydd Pisga.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index