Search form

Exodus 19

Duw yn dod i lawr ar Fynydd Sinai

1Ddau fis union ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft, dyma bobl Israel yn cyrraedd Anialwch Sinai. 2Roedden nhw wedi teithio o Reffidim i Anialwch Sinai, a gwersylla yno wrth droed y mynydd. 3Yna dyma Moses yn dringo i fyny'r mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dyma'r ARGLWYDD yn galw arno o'r mynydd, “Dwed wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel: 4‘Dych chi wedi gweld beth wnes i i'r Eifftiaid. Dw i wedi'ch cario chi ar adenydd eryr a dod â chi yma. 5Nawr, os gwrandwch chi arna i a chadw amodau'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda chi, byddwch chi'n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd biau'r ddaear gyfan; 6a byddwch chi'n offeiriaid yn gwasanaethu'r Brenin, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyna'r neges rwyt ti i'w rhoi i bobl Israel.”

7Felly dyma Moses yn mynd yn ôl ac yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, a rhannu gyda nhw beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud. 8Roedd ymateb y bobl yn unfrydol: “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma Moses yn mynd â'u hateb yn ôl i'r ARGLWYDD. 9A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i'n mynd i ddod atat ti mewn cwmwl trwchus, er mwyn i'r bobl glywed pan dw i'n siarad gyda ti. Byddan nhw'n dy drystio di wedyn.”

Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD beth ddwedodd y bobl. 10Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i baratoi y bobl. Heddiw ac yfory dw i eisiau i ti eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad. 11Gwna'n siŵr eu bod nhw'n barod ar gyfer y diwrnod wedyn. Dyna pryd fydd y bobl i gyd yn fy ngweld i, yr ARGLWYDD, yn dod i lawr ar Fynydd Sinai. 12Rhaid i ti farcio ffin o gwmpas y mynydd, a dweud wrth y bobl, ‘Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dringo na hyd yn oed yn cyffwrdd ymyl y mynydd. Os ydy unrhyw un yn ei gyffwrdd, y gosb ydy marwolaeth. 13A does neb i gyffwrdd y person neu'r anifail sy'n gwneud hynny chwaith, rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato neu ei saethu gyda bwa saeth. Dydy e ddim i gael byw.’ Dim ond wedi i'r corn hwrdd seinio nodyn hir y cân nhw ddringo'r mynydd.”

14Felly dyma Moses yn mynd yn ôl i lawr at y bobl. Yna eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad, 15Dwedodd wrthyn nhw, “Byddwch barod ar gyfer y diwrnod ar ôl yfory. Peidiwch cael rhyw.”

16Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd.+ Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn. 17Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd. 18Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu drwyddo. 19Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.

20Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny. 21Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw. 22Rhaid i'r offeiriaid, sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro nhw'n sydyn.” 23Atebodd Moses, “Dydy'r bobl ddim yn gallu dringo Mynydd Sinai, am dy fod ti dy hun wedi'n rhybuddio ni, ‘Marciwch ffin o gwmpas y mynydd, i'w gadw ar wahân.’” 24Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos di i lawr, a thyrd yn ôl gydag Aaron. Ond paid gadael i'r offeiriaid na'r bobl groesi'r ffin a dod at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro nhw'n sydyn.” 25Felly dyma Moses yn mynd i lawr a dweud wrth y bobl.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index