Search form

Genesis 24

Gwraig i Isaac

1Roedd Abraham yn ddyn hen iawn. Roedd yr ARGLWYDD wedi'i fendithio ym mhob ffordd. 2Un diwrnod dyma Abraham yn dweud wrth ei brif was (sef yr un oedd yn gyfrifol am bopeth oedd ganddo), “Dw i am i ti fynd ar dy lw,+ 3ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na fyddi di'n cymryd un o ferched Canaan i fod yn wraig i'm mab i. 4Dw i eisiau i ti fynd i'm gwlad i, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i Isaac.” 5Meddai'r gwas, “Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod yn ôl yma gyda mi? Ddylwn i wedyn fynd â dy fab di yn ôl i'r wlad honno?” 6“Na,” meddai Abraham, “gwna di'n siŵr na fyddi byth yn mynd a'm mab i yn ôl yno. 7Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, ydy'r un wnaeth i mi adael cartref fy nhad a'm teulu. Mae wedi dweud wrtho i, ac wedi addo i mi, ‘Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.’ Bydd e'n anfon ei angel i ofalu amdanat ti, er mwyn i ti ffeindio gwraig i'm mab i yno. 8Os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda ti, fydda i ddim yn dy ddal di'n gyfrifol i gadw dy lw. Ond paid byth â mynd â'm mab i yn ôl yno.” 9Felly dyma'r gwas yn addo ar lw y byddai'n gwneud yn union fel roedd ei feistr wedi dweud wrtho.

10Cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr wedi'u llwytho â phob math o anrhegion, ac aeth i ffwrdd i dref Nachor yng Ngogledd Mesopotamia.+ 11Gwnaeth i'r camelod orwedd wrth y pydew dŵr oedd tu allan i'r dre. (Roedd hi'n hwyr yn y p'nawn, sef yr amser y byddai'r merched yn mynd allan i godi dŵr.) 12Dyma'r gwas yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, arwain fi heddiw. Cadw dy addewid i'm meistr. 13Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma, ac mae merched y dre yn dod allan i godi dŵr. 14Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i'r un rwyt ti wedi'i dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i'n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i'm meistr.”

15Cyn iddo orffen gweddïo roedd Rebeca wedi cyrraedd yno yn cario jwg dŵr ar ei hysgwydd. Roedd Rebeca'n ferch i Bethwel (oedd yn fab i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham). 16Roedd hi'n ferch arbennig o hardd, yn ei harddegau, a doedd hi erioed wedi cael rhyw. Aeth i lawr at y pydew, llenwi ei jwg, a dod yn ôl i fyny. 17Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?” 18“Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo. 19Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.” 20Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd. 21Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld a oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus iddo ai peidio.

22Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd. 23Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?” 24Atebodd hithau, “Dw i'n ferch i Bethwel, mab Milca a Nachor. 25Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd i'r camelod, a lle i chithau aros dros nos.” 26Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD. 27“Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!” 28Rhedodd y ferch ifanc adre at ei mam, a dweud wrthi hi a phawb arall oedd yno am beth oedd wedi digwydd.

29Roedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a dyma Laban yn brysio allan i gyfarfod y dyn wrth y pydew. 30Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi'i ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna lle roedd y dyn, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew. 31Aeth ato a dweud, “Tyrd, ti sydd wedi dy fendithio gan yr ARGLWYDD. Pam wyt ti'n sefyll allan yma? Mae gen i le yn barod i ti yn y tŷ, ac mae lle i'r camelod hefyd.” 32Felly dyma gwas Abraham yn mynd i'r tŷ. Cafodd y camelod eu dadlwytho, a dyma wellt a bwyd yn cael ei roi iddyn nhw. Cafodd y gwas a'r dynion oedd gydag e ddŵr i olchi eu traed.

33Wedyn dyma fwyd yn cael ei baratoi iddyn nhw. Ond meddai'r gwas, “Dw i ddim am fwyta nes i mi ddweud pam dw i wedi dod yma.” “Iawn,” meddai Laban, “dywed wrthon ni.” 34“Gwas Abraham ydw i,” meddai. 35“Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn fawr. Mae'n ddyn cyfoethog iawn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi defaid a gwartheg iddo, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod. 36Cafodd Sara, gwraig fy meistr, fab iddo pan oedd hi'n hen iawn. Mae fy meistr wedi rhoi popeth sydd ganddo i'w fab. 37Gwnaeth fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dwedodd wrtho i, ‘Ti ddim i gymryd un o ferched y Canaaneaid, o'r wlad ble dw i'n byw, i fod yn wraig i'm mab i. 38Dw i am i ti fynd yn ôl i gartref fy nhad, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i'm mab i.’ 39Dwedais wrth fy meistr, ‘Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda mi?’ 40Ond ei ateb oedd, ‘Bydd yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn anfon ei angel gyda ti, ac yn gwneud yn siŵr dy fod yn cael taith lwyddiannus. Dw i eisiau i ti ffeindio gwraig i'm mab o blith fy mherthnasau, o gartref fy nhad. 41Os ei di at fy mherthnasau a hwythau'n gwrthod ei rhoi hi i ti, fydda i ddim yn dy ddal di yn gyfrifol. Byddi di'n rhydd o bob cyfrifoldeb.’

42“Pan gyrhaeddais i'r pydew heddiw, dyma fi'n gweddïo, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt ti wir eisiau i mi fod yn llwyddiannus ar y daith yma, gad i hyn ddigwydd: 43Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc sy'n dod i godi dŵr, “Ga i ychydig ddŵr i'w yfed gen ti?” 44Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” – hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi'i dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’ 45Rôn i'n dal i weddïo'n dawel pan gyrhaeddodd Rebeca â jwg dŵr ar ei hysgwydd. Aeth i lawr at y pydew i godi dŵr. A dyma fi'n gofyn iddi, ‘Plîs ga i ddiod o ddŵr gen ti.’ 46Dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd, a dweud, ‘Cei, wrth gwrs. Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Ces i yfed, a dyma hi'n rhoi dŵr i'r camelod hefyd. 47Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Atebodd hithau, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Yna dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi, 48a plygu i addoli'r ARGLWYDD. Rôn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd. 49Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”

50Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud. 51Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.” 52Pan glywodd gwas Abraham hyn, plygodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD. 53Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd. 54Ar ôl gwneud hynny, dyma'r gwas a'r dynion oedd gydag e yn bwyta'r pryd bwyd, ac yn yfed, ac yn aros yno dros nos.

Ar ôl iddyn nhw godi y bore wedyn, dyma'r gwas yn dweud, “Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr nawr.” 55Ond dyma frawd a mam Rebeca'n ei ateb, “Gad i'r ferch aros gyda ni am ryw wythnos i ddeg diwrnod. Caiff fynd wedyn.” 56Ond meddai'r gwas wrthyn nhw, “Peidiwch fy nal i nôl. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus i mi. Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr.” 57“Beth am ei galw hi draw a gofyn beth mae hi'n feddwl?” medden nhw. 58A dyma nhw'n galw Rebeca a gofyn iddi, “Wyt ti'n barod i fynd gyda'r dyn yma?” A dyma hi'n ateb, “Ydw.”

59Felly dyma nhw'n ei hanfon hi i ffwrdd gyda'r forwyn oedd wedi'i magu, a gwas Abraham a'r dynion oedd gydag e. 60Dyma nhw'n bendithio Rebeca a dweud wrthi,

“Boed i ti, ein chwaer, fod yn fam i filiynau!

Boed i dy ddisgynyddion di orchfygu eu gelynion i gyd.”

61Felly i ffwrdd â Rebeca a'i morynion ar gefn y camelod gyda gwas Abraham.

62Un noson roedd Isaac yn dod o gyfeiriad Beër-lachai-roi. (Roedd yn byw yn ardal y Negef yn y de.) 63Aeth allan am dro gyda'r nos, a gwelodd gamelod yn dod i'w gyfeiriad. 64Gwelodd Rebeca Isaac hefyd. Daeth i lawr o'i chamel 65a gofyn i was Abraham, “Pwy ydy'r dyn acw sy'n dod i'n cyfeiriad ni?” Ac meddai'r gwas, “Fy meistr i ydy e.” Felly dyma Rebeca yn rhoi fêl dros ei hwyneb.

66Dwedodd y gwas wrth Isaac am bopeth oedd wedi digwydd. 67Ac aeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd hi'n wraig iddo'i hun. Roedd e'n ei charu hi'n fawr, ac roedd yn hapus eto ar ôl colli ei fam.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index