Search form

Genesis 31

Jacob yn dianc oddi wrth Laban

1Clywodd Jacob fod meibion Laban yn cwyno amdano. “Mae Jacob wedi cymryd popeth oddi ar dad. Mae wedi dod yn gyfoethog ar draul ein tad ni!” medden nhw. 2A daeth Jacob i weld fod agwedd Laban tuag ato wedi newid hefyd.

3Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jacob, “Dos yn ôl adre at dy deulu a dy bobl. Bydda i gyda ti.” 4Felly dyma Jacob yn anfon rhywun i nôl Rachel a Lea, a dod â nhw allan i gefn gwlad lle roedd y preiddiau. 5Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi. 6Mae'r ddwy ohonoch yn gwybod mor galed dw i wedi gweithio i'ch tad. 7Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi. 8Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith. 9Felly Duw oedd yn rhoi anifeiliaid eich tad i mi.

10“Yn ystod y tymor bridio ces i freuddwyd. Roedd y bychod geifr oedd yn paru i gyd yn frithion. 11A dyma angel Duw yn galw arna i. ‘Jacob,’ meddai. ‘Ie, dyma fi,’ meddwn innau. 12‘Edrych, mae'r bychod geifr sy'n paru i gyd yn frithion. Dw i wedi gweld sut mae Laban wedi dy drin di. 13Fi ydy Duw Bethel, lle wnest ti dywallt olew ar y golofn a gwneud addewid i mi. Nawr dos! Dw i eisiau i ti adael y wlad yma a mynd yn ôl i'r wlad ble cest ti dy eni.’” 14A dyma Rachel a Lea yn ei ateb, “Does dim rheswm i ni aros yma. Dŷn ni ddim yn mynd i dderbyn dim byd mwy gan ein tad. 15Mae e'n ein trin ni fel tasen ni'n estroniaid. Mae wedi'n gwerthu ni, ac wedyn wedi gwastraffu a cholli'r cwbl gafodd e! 16Mae Duw wedi rhoi popeth oedd ganddo i ni a'n plant. Felly gwna beth mae Duw wedi'i ddweud wrthot ti.”

17Felly dyma Jacob yn paratoi i fynd. Rhoddodd ei blant a'i wragedd ar gefn camelod. 18Casglodd ei anifeiliaid a'i eiddo i gyd (popeth a gafodd yn Padan-aram) i fynd adre at ei dad Isaac yn Canaan. 19Ar y pryd roedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid. A dyma Rachel yn dwyn yr eilun-ddelwau teuluol. 20Roedd Jacob hefyd wedi twyllo Laban yr Aramead drwy redeg i ffwrdd heb ddweud wrtho. 21Rhedodd i ffwrdd gyda'i eiddo i gyd. Croesodd afon Ewffrates a mynd i gyfeiriad bryniau Gilead.

Laban yn mynd ar ôl Jacob

22Ddeuddydd wedyn dyma Laban yn darganfod fod Jacob wedi mynd. 23Felly aeth Laban a'i berthnasau ar ei ôl. Ar ôl teithio am wythnos roedden nhw bron â'i ddal ym mryniau Gilead. 24Ond dyma Duw yn siarad â Laban yr Aramead mewn breuddwyd y noson honno. Dwedodd wrtho, “Paid ti dweud dim byd yn erbyn Jacob.”

25Roedd Jacob wedi codi gwersyll ym mryniau Gilead pan ddaliodd Laban i fyny ag e. A dyma Laban a'i berthnasau yn gwersylla yno hefyd. 26“Beth rwyt ti wedi'i wneud?” meddai Laban wrth Jacob. “Ti wedi fy nhwyllo i. Ti wedi cymryd fy merched i ffwrdd fel tasen nhw'n garcharorion rhyfel! 27Pam wnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach heb i mi wybod? Pam wnest ti ddim dweud wrtho i? Byddwn i wedi trefnu parti i ffarwelio'n iawn, gyda chanu a dawnsio a cherddoriaeth. 28Wnest ti ddim hyd yn oed roi cyfle i mi roi cusan i ffarwelio â'm merched a'u plant. Ti wedi gwneud peth hollol wirion. 29Gallwn i wneud drwg i ti, ond dyma'r Duw mae dy dad yn ei addoli yn siarad â mi neithiwr. Dwedodd wrtho i, ‘Paid dweud dim byd yn erbyn Jacob.’ 30Dw i'n derbyn fod gen ti hiraeth go iawn am dy dad a'i deulu, ond pam roedd rhaid i ti ddwyn fy nuwiau?” 31A dyma Jacob yn ei ateb, “Wnes i redeg i ffwrdd am fod arna i ofn. Rôn i'n meddwl y byddet ti'n cymryd dy ferched oddi arna i. 32Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd biau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi'u dwyn nhw.)

33Felly dyma Laban yn mynd i bebyll Jacob, Lea, a'r ddwy forwyn, ond methu dod o hyd i'r eilun-ddelwau. Daeth allan o babell Lea a mynd i babell Rachel. 34(Ond roedd Rachel wedi cymryd yr eilun-ddelwau a'u rhoi nhw yn y bag cyfrwy ar ei chamel, ac yna eistedd arnyn nhw.) Dyma Laban yn chwilio drwy'r babell i gyd, ond methu dod o hyd iddyn nhw. 35A dyma Rachel yn dweud wrth ei thad, “Maddau i mi, dad, am beidio codi i ti. Mae hi'r amser yna o'r mis+ arna i.” Felly er iddo chwilio ym mhobman wnaeth e ddim dod o hyd i eilun-ddelwau'r teulu.

36Erbyn hyn roedd Jacob wedi gwylltio, a dechreuodd ddadlau yn ôl. “Beth dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai. “Beth dw i wedi'i wneud i bechu yn dy erbyn di? Pam wyt ti'n fy ymlid i fel yma? 37Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth piau ti ar ôl palu drwy fy stwff i gyd? Os wyt ti, gad i dy berthnasau di a'm perthnasau i ei weld. Gad iddyn nhw setlo'r ddadl rhyngon ni. 38Dw i wedi bod hefo ti ers ugain mlynedd. Dydy dy ddefaid a dy eifr di ddim wedi erthylu. Dw i ddim wedi cymryd hyrddod dy braidd di i'w bwyta. 39Os oedd rhai wedi'u lladd gan anifeiliaid gwyllt, wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos. 40Fi oedd yr un oedd yn gorfod diodde gwres poeth y dydd a'r barrug oer yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod colli cwsg. 41Dw i wedi gweithio fel caethwas i ti am ugain mlynedd. Roedd rhaid i mi weithio am un deg pedair blynedd i briodi dy ddwy ferch, a chwe blynedd arall am dy anifeiliaid. Ac rwyt ti wedi newid fy nghyflog i dro ar ôl tro. 42Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.”

Laban a Jacob yn gwneud cytundeb

43Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant? 44Tyrd, gad i'r ddau ohonon ni wneud cytundeb â'n gilydd. Bydd Duw yn dyst rhyngon ni.” 45Felly dyma Jacob yn cymryd carreg a'i gosod fel colofn. 46Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig.” Felly dyma nhw'n gwneud hynny ac yn eu codi'n garnedd, a chael pryd o fwyd gyda'i gilydd yno. 47Galwodd Laban y garnedd yn Jegar-sahadwtha+ a galwodd Jacob hi'n Gal-êd.+ 48“Mae'r garnedd yma yn dystiolaeth ein bod ni wedi gwneud cytundeb,” meddai Laban. Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw yn Gal-êd. 49Roedd y lle hefyd yn cael ei alw yn Mitspa,+ am fod Laban wedi dweud, “Boed i'r ARGLWYDD ein gwylio ni'n dau pan na fyddwn ni'n gweld ein gilydd. 50Os gwnei di gam-drin fy merched i neu briodi merched eraill, er bod neb arall yno, cofia fod Duw yn gweld popeth wnei di.” 51Ac meddai, “Mae'r garnedd yma a'r golofn yma wedi'u gosod rhyngon ni. 52Mae'r garnedd a'r golofn yn ein hatgoffa ni o hyn: Dw i ddim i ddod heibio'r lle yma i wneud drwg i ti, a ti ddim i ddod heibio'r fan yma i wneud drwg i mi. 53Boed i dduwiau Abraham a Nachor, duwiau eu tad nhw, farnu rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn gwneud adduned i'r Duw roedd ei dad Isaac yn ei addoli. 54A dyma fe'n cyflwyno aberth i Dduw ar y mynydd a gwahodd ei deulu i gyd i fwyta. A dyma nhw'n aros yno drwy'r nos.

55+ Yn gynnar y bore wedyn dyma Laban yn rhoi cusan i'w ferched a'u plant ac yn eu bendithio nhw cyn troi am adre.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index