Search form

Lefiticus 11:13-19

13-19“Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.

20-23“Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index