Search form

Lefiticus 11:20-23

20-23“Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.

24-28“Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A pheidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi'ch dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index