Search form

Lefiticus 11:29-32

29-32“Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw unrhyw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto. 33Os bydd corff unrhyw un ohonyn nhw'n cael ei ddarganfod mewn llestr pridd, rhaid torri'r llestr, a bydd popeth oedd ynddo yn aflan.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index