Search form

Numeri 2:3-9

3-9Ar yr ochr ddwyreiniol, bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:

Llwyth Arweinydd Nifer
Jwda Nachshon fab Aminadab 74,600
Issachar Nethanel fab Tswár 54,400
Sabulon Eliab fab Chelon 57,400
Cyfanswm: 186,400

Y milwyr ar ochr Jwda i'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.

10-16I'r de, bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:

Llwyth Arweinydd Nifer
Reuben Eliswr fab Shedeŵr 46,500
Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 59,300
Gad Eliasaff fab Dewel 45,650
Cyfanswm: 151,450

Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index