Search form

Numeri 7:84-88

84-88Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd:

– un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un

– un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un

(felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr)

– un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un

(felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr)

– un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau i'w llosgi'n llwyr – pob un gyda'i offrwm o rawn

– un deg dau bwch gafr yn offrymau puro

– dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

Dyna'r rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru a'i heneinio.

89Pan aeth Moses i mewn i babell presenoldeb Duw i siarad â'r ARGLWYDD, clywodd lais yn siarad ag e. Roedd y llais yn dod o rywle uwchben caead Arch y dystiolaeth oedd rhwng y ddau gerwb. Roedd yn siarad gyda Moses.

beibl.net 2015

© Gobaith i Gymru 2015

More Info | Version Index