Search form

Yr Actæ 10

Pen. x.

Rybuddio Cornelius gan yr Angel. Yd anuon y mae ef i Ioppa Gweledigaeth Petr. Py wedd ydd anvonwyd ef at Cornelius. Y Cenetloedd hefyt yn d’erbyn yr Yspryt, a’ ei batyddio.

1AC ydd oedd * nep gwr yn Caisareia a ei enw Cornelius capten y ddiadell y elwit diatell yr Ital, 2gvvr devosionol ac vn yn ofny Dew, y gyd ei oll tuylvvyth, ac yn rhoi llawer o eleeseni ir * popul ac yn gweddiaw ar Ddew yn ’oystat. 3Ef a welawdd drwy weledigaeth yn eglur ( yn cylch y nawvet awr o’r dydd) Angel Dew yn dyvot ato, ac yn dywedyt wrthaw, Cornelius, 4A’ phan edrychawdd arnaw, ofny a wnaeth, a’ dywedyt, Pa beth ytyw, Arglwydd? Ac ef a ddyvot wrthaw, Dy weddiae ath eleesenae a escenesont * yn‐cof geyr bron Dew. 5Ac yn awrhon anfon wyr i Ioppa, a’ galw am Simon a elwir Petr. 6Hwn ys ydd yn lletya gyd ac vn Simon barker, yr hwn ’sy ei dy wrth y mor: ef a ddywait yty pa beth y ddlei y wneythyd. 7Ac wedy ymady or Angel a ymddiddanawdd a’ Chornelius, ef a alwodd ar ddau oei weison, a’ * milwr creddyfol, vn or ei oedd yn * dylyn wrthaw, 8ac a vanagawdd yddwynt pop peth, ac y danvonodd hwy i Ioppa. 9A’ thranoeth mal ydd oeddent yn mynet y ymddaith, ac yn dynessay ir dinas, ydd escennawdd Petr ar vcha y tuy y weddiaw, amgylch y * chwechet awr. 10Ac y ddaeth newyn arnaw, ac ewyllysiawdd gahel bwyt: ac wynt y paratoy ryvv beth yddavv, e ddygwyddawdd llewyc arno. 11Ac ef a welas y nef yn agoret, a’ rryw lestr yn descen ataw, mal llen‐lliain vawr, wedy rhwymo * erwydd y pedair congyl, ac a ellyngwyt yd y waered yd y ddaiar, 12yn yr hon ydd oedd pop ryw anifal pedwar carnol y ddaear, a’ bestviloedd, ac ymluscieit, ac ehediait y nef. 13Ac e ddaeth llef ataw, Cyvot Petr: lladd, * a’ bwyta. 14A’ Phetr a ddyvot, Nage, Arglwydd: can na vwyteis erioed ddim cyffredin nai aflan. 15A’r llef a ddyvot wrthaw yr ailwaith, Y pethae a * garthodd Dew, na chyffredina di. 16A hyn a wnaethpwyt teirgwaith: a’r llestr a gymerwyt drachefn i vynydd ir nef.

17Ac pan ytoedd Petr yn + petrusaw ynthaw ehun pa beth ytoedd y weledigaeth hon y welsai, wele, y gwyr y ddanvonesit y gan Cornelius, a ymovynesent am duy Simon, ac a safent wrth y porth, 18ac a ’alwasont, ac ’ovynesont, a ytoedd Simon a gyfenwyt yn Petr, yn lletuya ynaw. 19Ac mal ydd oedd Petr yn meddwl am y weledigaeth, y dyvot yr Yspryt wrthaw, Wele, tri‐gwyr yn dy geisiaw: 20cyvot * can hyny, a’ descen, a’ dos gyd a hwy, ac na amhae, can ys mivi y danvoneis hwy.

21Yno Petr a ddescennawdd at y gwyr, ydd anvonesit ataw ywrth Cornelius, ac a ddyvot, Wele, mivi yw ’r hvvn ydd ych yn ei geisiaw: pa beth yw ’r achaws o ei bleit y daethoch yma? 22A’hwy a ddywedent, Cornelius y captaen‐cannwr, gwr cyfiawn, ac vn yn ofny Dew, ac a gair da iddaw gan oll genedl yr Iuddaeon, a rybyddiwyt or nef y gan Angel sanct, y ddanvon am danat, y ei duy, ac y wrandaw ar dy ’airiae. 23Yno y galwodd ef wynt y mewn, ac ei lletyawdd: A’ thranoeth, ydd aeth Petr allan y gyd ac wynt, a’r ei o’r broder o Ioppa aeth y gyd a hwy.

24A’ * thranoeth, ydd aethant y mewn y Cesareia. Ac Cornelius a arosawdd arnwynt, ac y galwesei ei gydgenedloedd, a’ ei annwyl gereint. 25Ac e ddarvu, val ydd oedd Petr yn dyvot y mewn, bot i Cornelius * gyfarvot ac ef, a’ dygwyddaw wrth y draet ef a’ ei addoli. 26Ac Petr y cyvodes ef, gan ddywedyt, Cyvot y vynydd: a’ minef wyf dyn. 27Ac wrth ymddiddan ac ef, y daeth y mewn, ac a gavas lawer wedy dyvot yn‐cyt, 28ac ef a ddyvot wrthwynt, Chvvychwi wyddoch nad yw gyfreithlawn i wr o Iuddew ymwascy n’ai ddyvot at * alltut: eithyr Dew a ddangosawdd i mi, yd na ’alwn vn dyn yn * gyffredin, ai yn aflan: 29am hynny yd aethym atoch yn ddinag, pan ddanvonwyt am danaf. Erwydd pa bleit y ymofynaf, o ran pa achos yd anvonesoch am danaf? 30Yno y dyvot Cornelius, Er es pedwar diernot a ddeddyvv * amgylch yr awr hon, ydd oeddwn yn vmprydiaw, ac ar y nawvet awr y gweddiais, yn vy‐tuy, ac wele, y savodd * gwr geir vy‐bron yn‐gwisc ddysclaer, 31ac y dyvot, Cornelius, e glypwyt dy weddi, ath eleesenae ynt yn‐coffa ger bron Dew. 32Yd anvon am hyny rei el i Ioppa, a’ galw am Simon, ys ydd ei gyfenw yn Petr (efe ’sy yn lletya yn‐tuy Simon y + barker yn‐glann y mor) yr hwn pan ddel, a ymadrodd wrthyt. 33Yno yd anvoneis i yn ebrwydd am danat, a’ thi wnaethost yn dda ar ddyvot. Yn awr gan hynny ydd ym ni yma oll yn + gydrychiol ger bron Dew, er mvvyn gwrandaw pop peth y ’orchymynwyt yty gan Ddew.

Yr Epistol ar ddie Llun Pasc, a’ ddie llun y Sul gwyn.

34Yno ydd agores Petr ei enae, ac y dyvot, Yn wir ydd wyf yn dyall, nad ytyw Dew yn yn derbyn cyflwr neb.

35Eithyr ym‐pop cenedlaeth y neb y hofno ef, ac a wnel * iawnder, ys ydd gymradwy gantho. 36Chvvy vvyddoch y gair yr hwn a ddanvones Dew i plant yr Israel, gan precethy * tangneddyf trwy Iesu Christ, yr hwn ys id Arglwydd pavvp oll. 37Ys ef y gair y ddaeth trwy’r oll Indaia, gan ddechrae yn‐Galilaia wedy y batydd a precethei Ioan, 38* nid amgen no darvot i Ddew enneiniaw Iesu o Nazaret + a’r Yspryt glan, ac a nerth: yr hwn gerddawdd o yamgylch gan wneythy-gvveithredoedd‐da, ac iachay pawp rei oedd yn ’oarsengedic y gan ddiavol: can ys Dew oedd y + gyd ac ef. 39Ac ydd ym ni yn testion o’r oll pethae a wnaeth ef yn‐+ tir yr Iuddaeon, ac yn‐Caerusalem: yr hwn a laddesont vvy, ac a grocesont ar bren. 40Hwn a gyvodes Dew y vyny y trydydd dydd, ac a barawdd bot ei ddangos ef yn amlwc: 41nid ir oll popul, amyn ir testion etholedic or blaen gan Ddew, ys ef y nyni yr ei vuam yn cydvwyta ac yn cydyvet ac ef, gwedy iddo gyvody o veirw. 42Ac ef orchymynodd y ni precethy ir popul, a’ thestolaethy, mae ef yw hwnw a ordeiniwyt gan Ddew yn varnwr bywion a’ meirw. 43Ac y gyd hwnn y mae yr oll Prophwyti yn testiaw, mae trwy yr Enw ef, y bydd i pwy bynac a creto ynthaw ef, dd’erbyn maddeuant pechatae. 44Tra ytoedd Petr eto yn dywedyt y geiriae hynn, y dygwyddawdd yr Yspryt glan ar yr ei oll a glywsant y * gair. 45Ac wyntwy o’r enwaediat a’r oeddent yn credy, a sannasant, cynniuer ac a ddaethent y gyd a Phetr, can ys darvot hefyt ar y Cenetloedd * diney dawn yr Yspryt glan. 46Can ys yddynt y clybot wy yn ymadrodd a thavodae, ac yn * mawrygy Dew. Yno ydd atebawdd Petr, 47A all neb ’ohardd ddwfr, yd na vatyddier yr ei hynn, a dderbyniesont yr Yspryt glan yn gystal a nineu? 48Ac velly ef ’orchymynawdd y patyddio hwy yn Enw yr Arglwydd: Yno y damunasant arno aros gyd a hvvy niver o ddyddiae.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index