Search form

Yr Actæ 7

Pen. vij.

Stephan yn gwneythy’d atep wrth yr Scrythur yw gyhuddwyr. Ceryddy y mae ef yr Iuddeon anhydyn. Ei lapyddio ydd ys yd angae. Saul ys y yn cadw dillat y llapyddwyr.

1YNO y dyvot yr Archoffeiriat, A ytyw ’r pethae hynny velly? 2Ac yntef ddyvot, A‐wyr vroder, a’ thadae, gwrandewch. Dew yr gogoniant a ymddangosawdd ydd ein tad Abraham, pan ytoedd ym‐Mesopotamia, cyn trigaw o honaw yn‐Charran, 3ac a ddyvot wrthaw, Dyred allan oth wlat, ac y wrth dy * dulwyth a’ dabre i’r tir a ddangoswyf yty. 4Yno yd aeth ef allan o tir y Chaldaieit, ac y preswyliawdd yn‐Charran. Ac yn ol marw ei dad, y duc Devv ef o ddyno ir tir hyn, ydd y‐chwi yn preswyliaw ynddo yr awrhon. 5Ac ny roddes iddaw ddim etiueddiaeth ynthaw, na ddo, led ei troed: ac e addawodd ei rodody iddaw y ei veddianny, ac yw had yn ei ol, pryd nad ytoedd eto vn map yddaw. 6Ac Dew a lavarodd val hynn, y byddei y had ef yn * ’odrigiawl mewn tir estran, ac yddwynt ei wasy, a’ bod yn ddrwc wrthaw dros petwar‐cant o vlyddyned. 7Eithyr y genedl y * wasanaethent yddi, a varnaf vi, medd Dew: ac yn ol hyny, ydd ant allan, ac im goasanaethant i yn y lle hwn. 8Ac ef a roddes iddaw ddygymbot yr enwaediat: ac velly Abraham a genetlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfet dydd: ac Isaac a gavas Iaco, ac Iaco a enillavvdd y deuddec Patriairch. 9A’r Patriarchae gan + wynfydy a werthesont Ioseph ir Aipht: anid bot Dew gyd ac ef, 10ac ei gwaredawdd oei oll gyfingdereu, ac a roddes yddaw garueiddrwydd a’ doethinep yn‐golwc Pharao Vrenhin yr Aipht, yr hwn ei gwnaeth yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei oll tuylvvyth.

11Yno y daeth newyn dros oll tir yr Aipht, a’ Chanaan, a’ blinvyd mawr, mal na chafas ein tadae or * bwytae. 12Eithyr pan glybu Iaco vot yd yn yr Aipht, e danvonawdd ein tadae yn gyntaf. 13A’r ailwaith, yr adnabuwyt Ioseph gan ei vroder, a’ chenedl Ioseph aeth mewn cydnabot a Pharao. 14Yno yd anvones Ioseph genadon ac a barawdd * ymoralvv am ei dad Iaco, ef a ei oll genedl, nid amgen pempthec a thri‐ugain enaidie. 15Yno y ddaeth Iaco y waered ir Aipht, ac y bu varw, ef a ein tadae, 16ac ydd ysmutwyt hwy i Sychem, ac ei dodwyt yn y bedd y brynesei Abraham * am arianvverth y gan veibion Emor vap Sychem. 17A’ phan ytoedd amser yr addewit yn dynesay, yr hwn a dyngesei Dew wrth Abraham, y tyfawdd y popul ac y lliawsocawdd yn yr Aipht, 18yd pan gyvodes Brenhin arall, yr vn nyd oedd yn adnabot Ioseph. 19Hwn yma vu ddichellgar wrth ein * Ryw ni, ac a ddrygawdd ein tadae, ac a barawdd yddynt vwrw allan ei plant newyddian, val na chaffent vot yn vyw. 20Ac yn y cyfamser hyn y ganet Moysen, ac ydd oedd ef yn gymradwy gan Ddew, yr hwn a vagwyt dri‐mis yn tuy ei dat. 21Ac wedy ei vwrw allan, y cyvodes merch Pharao ef y vynydd, ac ei magawdd yn vap yddi ehun. 22Ac Moysen oedd ddyscedic yn oll ddoethinep yr Aiphtieit, ac ydd oedd yn * nerthawc yn‐gairiae ac yn gweithreddedd. 23A’ phan ytoed ef yn ddauugain‐blwydd llawn, yr escennawdd yn ei galon vynet y ymwelet a ei vroder, plant yr Israel. 24A’ phan weles ef vn o hanvvynt yn cahel cam, ef ei amddyffynnawdd, ac a ddialawdd gam yr hwn a gawsei yr sarhaet, gan * vaeddy yr Aiphtiwr. 25Can ys tybiawdd ef vot ei vroder yn deall, bot i Ddew trwy y law ef roddy ymwaret yddwyntvvy: ac wythe ny’s dyalldesont. 26A’r dydd nesaf, yr ymddangosawdd yddwynt ac wynt yn cynneny, ac a vynysei ei cymmodi drachefn, gan ddywedyt, A wyr, ydd y‐chwi yn vroder, paam ydd yw chwi yn gwneythy cam aei gylyd? 27Eithyr yr hwn oedd yn gwneythy cam aei gymydawc, y cilgwthiawdd ef, gan ddywedyt, Pwy ath wnaeth di yn * dwysawc ac yn varnwr arnam ni? 28A laddy di vinef y modd y lleddeist yr Aiphtiwr ddoe? 29Yno y ffoes Moysen ar y gair hwnw, ac y bu yn wr dyvodiat yn‐tir Madian, lle cenedlodd ef ddau o veibion. 30A’ gwedy * cyflawny dauugain blynedd, ydd ymddangoses yddaw yn‐dyffeithvvch mynydd Sina, Angel yr Arglwydd mewn flamm dan, mewn perth. 31A’ phan weles Moysen, y rhyueddawdd gan y golwc: ac ef yn dynessaw y * synnyaw, yd aeth llef yr Arglwydd ataw gan ddvvedyt, 32Mi yw Dew dy dadae, Dew Abraham, a’ Dew Isaac, a’ Dew Iaco. Yno ydd echrenawdd Moysen, ac ny veiddiawdd + synniaw. 33Yno y dyvot yr Arglwydd wrthaw, Diosc dy escidiae y dd’am dy draet: can ys y lle yn yr hwn sefy, ys y * tir sanctavvl. 34Gwelais, gwelais ddrugvyd ve‐popul, ys ydd yn yr Aipht, ac a glyweis ei griddfan, ac a ddescennais yw ymwared hvvy: ac + yr owon dyred, a’ mi ath ddanvonaf ir Aipht. 35Y Moysen hwn, yr vn a wrthddodesont vvy, gan ddywedyt, Pwy ath roes di yn dywysoc ac yn varnwr? hwn yma a ddanvones Dew yn dywysawc, ac yn ymwaredwr trwy law Angel, yr hwn a ymddangosawdd iddaw yn y berth. 36Ef e y duc wy allan, gan wneythy ryveddodae, a’ miracle yn‐tir yr Aipht, ac yn y mor coch, ac yn y dyffeithvvch, dros dauugain + blyddet. 37+ Llyma yr Moysen, yr hwn a ddyvot wrth plant Israel, Prophwyt a gyvyt yr Arglwydd eich Dew y chwy, ys ef o’ch broder, vn * mal mivi: hwnw a wrandewch. 38Hwn yw ef a vu yn y Gynnullleidfa, yn y diffeithvvch y gyd a’r Angel, yr hwn a ymddiddanodd wrthaw ym‐monydd Sina, ac wrth ein taddae, yr hwn a dderbyniawdd y gairie bywiol i roddi y nyni: 39i ba vn ny vynnai ein tadae vfyddhay, anid ymwrthddot, ac yn ei calonae ymchwelyt drachefn ir Aipht, 40gan ddywedyt wrth Aaron, Gwna i ni Ddewiae a * a’n racvlaenant: can na wyddam beth ddarvu ir Moysen yma yr hwn an duc o dir yr Aipht. 41A’ lloa wnaethant yn y dyddiae hyny, ac a offrymesont aberth ir ddelw a’ llawenhay a wnaethant yn‐gweithredoedd ei dwylaw y hunain. 42Yno ydd ymchwelawdd Dew ymaith, ac y rhoes hwy i vynydd y n yd addolent i lu yr nef: megis y mae yn escriuenedic yn llyfer y Prophwyti. A Tuy yr Israel, a offrymesoch ymy aniueilieit wedy ei lladd ac aberthae dros, ddauugain blynedd yn y dyffeith? 43A’ chvvi gymeresoch y chvvy * tabernacl Moloch, a’ seren eich Dew Rempham, ys ef, lluniae, ’rei a wnaethoch y addoly yddwynt: am hyny ydd eich ysmutaf y tu hwnt i’r Babilou. 44I ein tadae ydd oedd tabernacl y testoliaeth yn y diffaithvvch, mal ydd ordinesei ef, yn llavaru wrth Moysen, ar vod iddaw ei wneithyd yn ol y ffurf a welsei. 45Ys yr hwn tabernacl a gymerth ein tadae ac ei ducesont y mewn y gyd ac * Iesu i berchenogaeth y Cenetloedd, yr ei a ddyrrawdd Dew ymaith rac wynep ein tadae, yd dyddiae Dauid: 46yr hwn a gavas gariat geyr bron Dew, ac a archawdd gahel o honaw * dabernacl i Ddew Iaco. 47Eithyr Selef a adailadawdd duy yddaw. 48Cyd na bo y Goruthaf yn trigiaw mewn Templ o waith dwylaw, megis y dywait y Prophwyt, 49Y nef yvv vy eisteddle, a’r ddaear yvv lleithic vy‐traet: pa duy a adeiliadwch i mi medd yr Arglwydd? A’i pa ryvv le vyddei vy‐gorffwyffa? 50Anid vy llaw i a wnaeth hynn yma y gyd oll? 51chvvi warhydr ac o galon a’ chlustiae * ddianwaediat, chwi yn oystat a wrthladdesoch yr Yspryt glan: mal y gvvnai eich tadae, velly y gvvnevvch chwitheu. 52Pwy n o’r Prophwyti nid ymlidient eich tadae chwi? ac eu lladdasant, yr ei oedd yn ragvenegy o ddyvodiat y Cyfiawn hwnw, i ba vn * y buo‐chwi yr awrhon yn vradwyr ac yn llawryddion, 53yr ei adderbyniesoch y Ddeddyf trwy * ordinat Angelon, ac yr ny’s cadwesoch. 54Eithyr pan glywsant y pethae hynn, y rhwygawdd ei calonae-gan‐ddicter, ac escyrnegesont ddanedd arnaw.

Yr Epistol ar ddiegwyl Stephan.

55Ac efe yn gyflawn or Yspryt glan, a * edrychodd‐yn ddyval ir nef, ac a welawdd ’ogogiant Dew, ac Iesu yn sefyll ar ddehaulaw Dew. 56Ac ef a ddywedawdd, Nachaf y gwelaf y nefoedd yn agored, a’ Map y dyn yn sefyll ar ddehaulaw Dew. 57Yno y * gwaeddesont vvytheu a llef vawr, ac y caeesont ei clustiae, ac y rhuthresont iddaw o vnvryd. 58Ac y bwriesont ef allan o’r dinas, ac ei llapyddiesent. A’r testion a ddodesont ei dillat wrth draet y gvvas‐ieuanc, y elwit Saul. 59Ac vvy a lapyddiesont Stephan, ac ef yn galw ar Ddew, ac yn dywedyt, Yr Arglwydd Iesu, derbyn vy yspryt. 60Ac ef a estyngawdd ar ei liniae, ac a lefawdd a llef vchel, Arglwydd, na ddod y pechat hyn yn ei herbyn hvvy. Ac gwedy yddaw ddywedyt hyn, yr hunawdd ef.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index