Search form

Yr Actæ int

YR ARGVMENT.

CHRIST, gwedy ei escenniat, a gwplaodd ei addeweidion y’w Apostolieit, ac a ddanuonawdd yddwynt yr Yspryt glan, gan ddangos wrth hynny, nad oedd ef yn vnig yn vevyr am ei Eccles, anyd hefyt y byddei yn ben arnei, ac yn gynnaliwr yddei yn dragyvyth. Yn yr hyn hefyt yr ymddengys y alluawc veddiant ef, yr hwn, cyd bot i Satan a’r byt wrthladd yn vwyaf ac allent y gwaith ardderchawc hyn, er hyny trwy ychydic o wyr * syml digymeriat, e a gyflanwodd yr oll vyt a son ei Euangel. Ac yma yn‐dechreu yr Eccles, ac yn ei chynnyddiat, y gallwn ddyally yn eglaer y gwaith a’r malis y arverei Satan yn wastat y ddarestwng, ac y drancwyddo’r Euangel: efe gyvyt vrad, a’ chynllwyn, cyffro, ac ymlid, sclandr, a’ phop ryw graulonedd. Trachefn, ni a gawn weled yma rhacluniaeth Dew, yr hwn a ddymchwyl arvaethae ac amcaneu ei ’elynion, ac a ymwared ei Eccles y rhac cynddaredd y traws lywyawdwyr, e a nertha, ac y ariala yr ei yddo ef yn ddewrddrud ac yn ddianwadal y ddilyn ei capten Christ, gan adael megis trwy ’r historia hon goffaduriaeth tragyvythawl ir Eccles, ’sef bot y grocs mor gyssylltedio a’r Euangel, val na ellir gohanu ei cymddeithas, ac nad yw dywedd vn gorthrymder, anyd dechreu vn arall. Er hyny bot Dew yn troi y trwbleu, y gorthrymdereu, erlidieu, carchareu, a’ thentasioneu yr ei ef, i ben da, gan roddy yddynt mewn modd, yn‐tristit, lywenydd: mewn * rhwymeu, rydit: yn‐carchar, ymwared: mewn trallot, lonyddwch: mewn angeu, vywyt. Eb laww hyny, y mae yn y llyver hwn lawer o precethae ragorol a wnaeth yr Apostolon a’r discipulon, yn traethu o angeu, cyuodedigeth, ac escenniat Christ. Am drugaredd Dew. O rat, a’ maddeuant pechoteu trwy Iesu Christ. Am y gwynvydedic anvarwoldep. Annoc, eirial, a’ chygor i wenidogion deveit Christ. Am ediveirwch, ac ofn Dew, ac eraill * bwytheu arbennic o’n ffydd: megis y gall yr vnic historia hon yn ei herwydd, vot yn ddigonol y addyscu dyn ym‐pop gwir ddysc a’ chreddyf.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index