Search form

Ioan 11

Pen. xj.

Christ yn codi Lazarus o varw. Yr Archoffeirieit a’r Pharisaieit yn ymgygcori yn y erbyn ef. Caiaphas yn prophwyto. Christ yn tynuu o ddiar y ffordd.

1AC ydd oedd * vn yn glaf, a elvvit Lazarus o’r Bethania ’sef tref Mair, a’ hi chwaer Martha. 2(A’r Mair oedd hi yr hon a + irodd yr Arglwydd ac ireid gvvyrthfavvr, ac a sychawdd y draet ef a’ hi gwallt, yr hon oedd ei brawt Lazarus wedy clefychu.) 3Am hyny yd anvonawdd y chwioredd ef attaw gan ddywedyt, Arglwydd, wely, yr hwn a gery di, ’sy ’n glaf. 4Pan glybu ’r Iesu, y y dywedawdd, Nyd yw ’r * clefyt hwn yd angeu, eithyr er gogoniant Duw, mal y gogonedder Map Duw * trwy hyny.

5A’r Iesu a garei Vartha a’ ei chwaer, a’ Lazarus. 6A’ gwedy yddaw glywed y vot ef yn glaf, er hyny ef arosawdd ddau ddydd yn ’oystat yn y lle ydd ydoedd. 7Yno yn ol hyn, y dywedawdd wrth ei ddiscipulon, Awn i’r Iudaia drachefyn. 8Y discipulon a ddywedesont wrthaw. * Athro, yn hwyr y ceisiawdd yr Iuddaeon dy lapyddiaw di, ac a ai di yno drachefyn? 9Yr Iesu a atebawdd, Anyd oes deuddec awr * o ddydd? A’s rodia nep y dydd, ny thancwydda ef, can ydd‐aw weled goleuni y y byt hwn. 10Eithr a’s rhodia nep y nos, ef a drancwydda, can nad oes goleuni yndaw. 11Y pethe hyn a ddyvawt ef, ac wedy hyn ysyganei wrthynt, Y mae ein car Lazarus yn * hunaw: eithyr ydd wyf yn myned yw ddihunaw ef. 12Yno y dyvawt eu ddiscipulon, Arglwydd, ad yw ef yn * hunaw e vydd holliach. 13A’r Iesu a ddywedesei am y * angae ef: ac wythe a dybiesont mai am gysciat cynthun y dywedesei ef. 14Yno y dyvawt yr Iesu yddynt yn eglaer, E vu varw Lazarus. 15A’ llawen * wyf er eich mwyn chwi, nad oeddwn yno, val y credoch: eithyr awn at‐aw. 16Yno y dyuot Thomas (yr hwn a elwir Didimus) wrth ei * gydiscipulon, Awn nine hefyt, val y bom veirw gyd ac ef.

17Yno y daeth yr Iesu, ac ei cafas ef wedy * ddody yn y bedd ys pedwar diwarnot weithian, 18(A’ Bethania oedd yn agos i Cairsalem, yn‐cylch pempthec * stad o y wrthi.) 19A’ llawer o’r Iuddaeon a ddaethesent at Vartha a’ Mair yw confforddio hvvy am eu brawd. 20Yno Martha pan * gigle he ddyvot o’r Iesu, aeth y gyvarvot ac ef: a’ Mair a eisteddawdd yn tuy yn vvastat. 21Yno y dyvot Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe byesyti yma, ny besei varw vy‐brawd. 22Eithyr yr owrhon y gwn i hefyt, mai pa bethe pynac a erchych i Dduw y dyry Duw y‐ty. 23Yr Iesu a ddyvot wrthei, E gyfyt dy vrawt drachefyn. 24Martha a ddyvot wrthaw, Mi wn y cyvyt ef yn y cyvodiadigaeth yn y dydd * dywethaf. 25Yr Iesu a ddyvot wrthei, Mi yw’r cyvodiadigaeth a’r bywyt: yr vn a gred yno vi, * er y varw, byw vydd. 26A’ phwy pynac ’sy vyw ac a gred yn o vi, ny bydd marw byth. A wyt yn credu hyn? 27Hi ddyweddodd wrthaw, Y rwyf, Arglwydd, mi gredaf mai ti yw’r Christ Map Duw, yr hwn oedd ar ddyvot i’r byt.

28A’ gwedy yddhi ddywedyt hyn, hi aeth ymaith, ac a’ alwodd Vair hi chwaer * yn ddirgel, gan ddywedyt, E ddaeth y Dysciawdur ac y mae yn galw am danati. 29A’ phan clybu hithe, hi a godes yn ebrwydd, ac a ddaeth ataw ef. 30O bleit ny ddaethei ’r Iesu etwa ir dref, and ydd oedd ef yn y lle y cyfwrddesei Martha ac ef. 31Yno yr Iuddæon yr ei oeddent y gyd a hi yn tuy, ac y confforddient hi, pan welesont Vair, a’ chvyody o hanei ar ffrwst, a’ mynet allan, y dilinesont hi, gan ddywedyt, Mae hi yn mynet i’r * bedd, y wylaw yno. 32Yno gwedy dyvot Mair ir lle ’r oedd yr Iesu, a’ ei weled ef, hi a gwympawdd y lawr wrth y draet ef, gan ddywedyt wrthaw, Arglwydd, pe besyt’ yma, ny besei varw ve‐brawd. 33Can hynny pan welas yr Iesu hi yn wylaw, a’r Iuddaeon hefyd yn wylaw r’ ei ddaethei y gyd ac yhi, ef a griddvanodd + yn yr yspryt, ac a * ymgynnyrfodd, 34ac a ddyvot, P’le y dodesoch ef? Dywetsont wrthaw, Arglwydd, dyred a’ gwyl. 35A’r Iesu a wylawdd. 36Yna y dyvawd yr Iaddaeon, Wely, * mal yr oedd e yn y garu ef. 37A’r ei o hanaddynt a ddywedent, Any allesei hwn a agorawdd lygeit y dall, wneuthur hefyt, val na bysei hwn varw? 38Yno ’r Iesu drachefyn a * griddvanodd yntho yhun, ac a ddaeth i’r bedd. * A’ gogof ydoedd, a’ llech a ddodesit arno. 39Dywedawdd yr Iesu, Cymerwch ymaith y * llech. Martha chwaer hwn a veisei varw, a ddyvot wrthaw, Arglwydd, y mae ef + weithian yn drewi: can ys e vu varvv er ys pedwar diernot, 40Yr Iesu a ddyvot, wrthei, Any ddywedais y‐ty, pe a’s credyt, y * gwelyt ’ogoniant Duw? 41Yno y cymeresont ymaith y llech or lle y dodesit y marw. A’r Iesu a dderchafawdd eu * lygaid ac a ddyvot, Y Tat, ddwy’n diolvvch y‐ty, can darvot y‐ty vy clywet. 42Mi ’wn y clywyt vi * bop amser, eithyr o bleit y popul ’sy yn sefyll o y amgylchyn y dywedaisym hynn, val y credant, mai tudi am danvonawdd. 43+ A’ gwedy iddo ddywedyt y pethe hyn, ef a lefawdd a llef vchel, Lazarus dyre’d allan. 44Yno hwn a vesei varw, a ddaeth allan, wedy rwymo o traed a’ dwylo * a rhwymyne, ai wynep a rwymesit a napkyn. Yr Iesu a ddyuot wrthynt, Gellyngwch ef yn rhydd, a’ gedwch iddo wyned ymaith.

45Yno llawer o’r Iuddaeon, y ddaethent at Vair, ac a welesont y pethe, ’rei wnaethoedd yr Iesu, a gredesont yndo ef. 46An’d ’rei o hanynt aethant ymaith at y Pharisaieit, ac a ddywedesont ydd‐wynt y pethe a wnaethoedd yr Iesu. 47Yno y cynullawdd yr Archoffeiriait a’r Pharisaieit + synneddr, ac ey dywedesont, Pa beth a wnawn; can ys y mae’r dyn hwn yn gwneythur llawer o wyrthiae. 48A’s gadwn yddo val hyn, pavvp oll a credant ynddo, ac yddaw y Ruueinwyr, ac a * gymerant ymaith a’ ein lle, a’r genedl hefyt. 49Yno vn o hanaddynt a elvvit Caiaphas, vn oedd Archoffeiriat y vlwyddyn hono, a’ ddyuot wrthwyut. Nyd y‐chwi yn dyally dim oll, 50ac nyd ych yn ystyried y llesa i ni, bot + marw vn dyn tros y popul ac na chyfergoller yr oll * genetl. 51Hyn a ddyvod ef nyd o hano yhun: eithyr can y vot yn Archoffeiriat y vlwyddyn hono y prophwytawdd ef y byddei ’r Iesu varw tros y genetl: 52ac nyd tros y genetl yn vnic, eithr ar vot yddaw gascly hefyt ynghyd yn vn blant Dew yr ei a ’oyscaresit. 53Yno or dydd hwnw allan y cyd ymgygcoresont,, yw * ddienyddu ef. 54Iesu gan hyny ny rodiawdd mwyach yn gyoeddus ym‐plith yr Iuddæon, eithyr mynet o ddyno y wlat ysydd yn agos i’r diffaithvvch, y ddinas a elwir Ephraim, ac aros yno y gyd au’ ddiscipulon.

55A’r + Pasc yr Iuddæon oedd yn agos, a’ llawer o’r wlat aeth y vynydd y Cairusalem o vlaen y Pasc, yr ymlanhay. 56Yno y ceisiesont vvy ’r Iesu, ac a ddywedent wrth y gylydd, ac wy yn sefyll yn y Templ, Beth a dybywchwi, * can na ddaw ef ir wyl? 57Ac e roesei ’r Archoffeirieit a’r Pharisaiait hefyt ’orchymyn, a’s gwyddiat neb p’le ydd oedd ef ar ddangos o hanaw, val y gallent y ddalha ef.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index