Search form

Ioan 6

Pen. vj.

Yr Iesu yn porthy pemp mil o wyr a phemp torth a’ dau byscodyn. Ef yr myned ymaith, rac yddyn y wneythur ef yn vrenhin. Ef yn argyoeddu cnawdawl wranvwyr y ’air ef. Bod yr ei cnawdol yn ymrwystro wrthaw. Nyd yw y cnawd yn proffitio dim,

Yr Euangel y iiij. Sul yn y Grawys.

1GWEDY y pethæ hyny ydd aeth yr Iesu tros vor Galilaia, neu Tiberias. 2A’ thorf vawr y cynlynawdd ef, o bleit yddwynt welet y * arwyddion ef, a’r a wnaethoedd ar y cleifion. 3Ac ef aeth yr Iesu ir * monyth, ac yno yr eisteddawdd cyd aei ddscipulon. 4Ac ydd oedd hi yn agos ir Pasc, gwyl yr Iuddeon. 5A’r Iesu a gyuodes i vynydd ei lygait, a’ phan weles dyrfa vawr yn dyuot attaw, ef a dyvot wrth Philip, O b’le y prynwn vara, val y caffo yr ei hynn beth yw vwyta? 6(a hynn a ddywedawdd, yw brobi ef: can ys efe a wyddiat peth a wnelei) 7Philip a atepawdd iddaw, Nid oedd ddigon gwerth + daucant ceiniawc o vara yddwynt, y gahel o pop vn o hanwynt ychydic. 8Yna y dyvot wrthaw vn oei ddiscipulon, ys ef Andras, brawt Simon Petr, 9Mae yma vachcenyn, a’ phemp torth haidd ganthaw, a’ dau pyscodyn: eithyr beth yw hynny ymplith + cynniver? 10A’r Iesu a ddyvot, Gwnewch ir dynion hyn eistedd, (Ac ydd oedd yno wellt‐glas lawer) yno yr eisteddawdd y gwyr yn‐cylch pemp mil o rifedi. 11A’r Iesu a gymerth y bara, ac a ddiolches, ac ei rhanodd ir discipulon, a’r discipulon, ir * ei oeddynt yn eistedd: a’r vn modd or pyscot cymmeint ac a vynnesont. 12A’ gwedy yddwynt gahel digon, ef a ddyuot wrth ei ddiscipulon, Cesclwch y brivwyt a weddillodd, rac colli dim. 13Yno y casclasont, ac a lanwesant dauddec bascedait or briwvwyt, or pemptorth haidd’oedd yngweddill can yr ei a vesynt yn bwyta. 14Yno pan * welawdd y dynion wneythyd or Iesu yr arwydd hyn, y dywedesant, Diau mae hwn y’w Prophwyt a ddauei ir byt.

15Velly pan wybu Iesu vot yn y bryd hwy ddyuot, a’i * gymryd ef yw wneuthur yn Vrenhin, ef a dynnawdd heibio drachefyn ir mynyth vvrtho y hunan.

16Gwedy daruot yddei hwyrhay, y ddiscipulon ef a ddescenesont i’r mor, 17ac a * aethant i’r lhong, a’ myned tros y mor tu a Chapernaum: ac weithion ydd oedd hi yn dywyllvvch, ac ny ddaethoeddoedd yr Iesu atwynt. 18A’ chodi o’r mor y gan wynt mawr yn chwythu. 19A gwedy yddynt rwyfo yn‐cylch pemp * stad ar vcain, neu ddec stad ar ycain, wy welent yr Iesu yn gorymddaith ar y mor, ac yn dynesau at y llong: ac ofny a wnaethant. 20Ac ef a ddyuot wrthynt, Mivi * yw: nac ofnwch. 21Yno yn ewyllysgar yd erbyniesont ef ir llong, a’r llong oedd yn y van wrth y * tir ir lle ydd elent.

22Tranoyth y popul yr ei a safai y tu arall ir mor, a welawdd nad oedd llong arall yno, anyd yr vn, yr aethei ey ddiscipulon yddhi, ac nad aethesei yr Iesu y gyd ei ddiscipulon i’r llong, eithyr myned ymaith o ei ddiscipulon ef vvrthyn yhunain, 23a’ dyuot llongae eraill o Tiberias yn gyfagos ir van lle y bwytesent y bara, gwedy ir Arglwydd ddiolwch. 24And pan welawdd y * popul nad oedd yr Iesu yno, na ei ddiscipulon, a’ nwythe a gymeresont longae, ac a daethont i Capernaum, gan geisiaw yr Iesu. 25A’ gwedy yddwynt y gahel ef y tu arall ir mor, wy ddywedesont wrthaw, Rabbi, pa bryd yd aethost yman? 26Yr Iesu a atepawdd ydd‐wynt, ac a dyuot, Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, Nyd ych i’m caisiaw, o bleit ywch welet y gwyrthiae, anyd o bleit ywch vwyta o’r torthae, ach’ llenwi. 27Na * thraveiliwch am y bwyt a gollir, eithyr am y bwyt a barha i vywyt tragywythawl, yr hwn a rydd Map y dyn y chwi: can ys hwn a inseliawdd Duw ’r Tad. 28Yno y dywedesont wrthaw, Pa beth a wnawn val y gallom * weithiaw gwaithredoedd Duw? 29Yr Iesu a atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Hyn yw gwaithret Duw, credu o hanoch yn yr hwn a ddanvonawdd ef. 30Dywedesont gan hyny wrthaw, Pa ’r arwydd gan hyny a wnei di, val ey gwelom, ac y’th’ credom? pa beth wyt’ yn ei weithredu? 31Ein ni a vwytesont y Manna yn y diffeithvvch, megis y mae yn scrivenedic, Bara o’r nef a roes ef yddwynt yw vwyta. 32Yno y dyvawt yr Iesu wrthwynt, Yn wir, yn wir y dywedaf ychwy, Nyd Moysen a roes y‐chwi ybara hwnw o’r nef, eithyr * y Tat meuvi ysy yn rhoddi y‐chwy y gwir vara o’r nef. 33Can ys bara Duw y dyw’r hwn ’sy yn descend o’r nef, ac yn rhoddy bywyt i’r byt. 34Yno y dywedesont wrthaw, Arglwydd, byth dyro i ni y bara hwn. 35Dywedawdd yr Iesu wrthynt, Mivi yw ’r bara ’r bywyt: yr vn a ddel ata vi, ny ’s newyna ddim, a’r vn a gred yno vi, ny sycheda byth. 36Eithyr mi ddywedais ychwy, can ac ychwy vy‐gweled, ac ny chredesoch. 37* Oll a’r y mae ’r Tat yn y roi y my, a ddaw ataf: a’ hwn ’sy yn dyuot ataf, ny’s bwriaf allan. 38Can ys descenais o’r nef, nyd i wneythu ’r vy ’wyllys * i, eithyr ewyllys yr vn am danvonodd i. 39A’ hyn yw ’wyllys y Tat yr hwn a’m danvonawdd i, na bo o’r oll a roddes ef i mi, golli o hanof ddim, eithyr ei gyvodi drachefyn yn y dydd dywethaf. 40A’ hyn yw ’wyllys yr hwn a’m danvonawdd i, bod y bawp dyn a’ra wyl y Map, ac a gred yndaw, gahel bywyt tragyvythawl: a’ mi y cyfodaf ef y vynydd yn y dydd dywethaf. 41Yno y * murmuresont yr Iudaeon wrthaw, o bleit dywedyt o hanaw, Mivi yw’r bara, a + ddescendas o’r nef. 42A’ dywedyt a wnaethant, Anyd hwn yw Iesu map Ioseph, yr hwn a adwaenom ni y dat a y vam? pa vodd gan hyny a dywait ef, * mai O’r nef y descendais? 43Yno atep o’r Ieshu a’ dywedyt wrthynt, Na vurmurwch yn eich plith. 44Ny aill nep ddyvot ata vi, o ddyeithr ir Tat, yr hwn am danvonawdd i, y dynnu ef: ac mi y cyfodaf ef y vyny yn y dydd dywethaf. 45Y mae yn escrivenedic yn y Prophwyti, Ac wy a * vyddant oll dyscedic y gan Dduw. Pawp dyn gan hyny a’r a glybu, y gan Tat, ac a ddyscawdd, a ddaw at y‐vi. 46Nyd erwydd gweled o nep y Tat, anyd yr vn y ’sydd o Dduw, ys ef a welawdd y Tat. 47Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, Yr vn a gred yno vi, * mae yddaw vuchedd dragyvythawl. 48Mivi yw ’r bara ’r vuchedd. 49Eich tadae chvvi a vwytesont y Manna yn y diffeithvvch, a’ marw a wnaethont. 50Hwn yw ’r bara sy yn descend o’r nef, yd pan yw i’r neb a vwytao o hanaw, na bo marw. 51Ys mi yw ’r bara bywiol, yr hwn a ddescendais o’r nef: a’s bwyty nebun o’r bara hwn e vydd byw byth: a’r bara a roddwy vi, vy‐cnawd yw, yr hwn a roddwy vi tros * vywyt y byt. 52Yno yr ymrysonent yr Iuddeon a ei gylydd, gan ddywedyt, Pa vodd y gaill hwn roddi i ni y gnawd yvv vwyta? 53Yno y dyvawt yr Iesu wrth‐wynt, Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, * A ny vwytewch’ gnawt y Map y dyn, ac yfet ei waet, nyd oes y chwy vywyt ynoch. 54Pwy pynac a vwytao vy‐cnawd i, ac a yfo vy‐gwaet, y mae iddaw * vywyt tragyvythawl, a’ mi y cyfoda ef y vyny yn y dydd dyweddaf. 55Can ys vy‐cnawd i y sydd wir vwyt, a’m gwaed i ’sy wir ddiawt. 56Hwn a vwyty vy‐cnawd, ac a yf vy‐gwaed, a dric yno vi, a mi yndo ef. 57Mal yd anvonawdd vi y byw Dat, velly y byw vi + trwy y Tat, a’ hwn a’m bwyty i, byw vydd yntef trywo vi. 58Hwn yw ’r bara a ddescendnodd o’r nef: nyd val y bwytaodd ych tadae chwi y manna, a’ marw o hanynt. Yr vn a vwyty o’r bara hwn, a vydd byw byth. 59Y pethe hyn a ddyvot ef yn y Synagog, gan y dyscu hvvy yn‐Capernaum. 60Llawer gan hyny o ey ddiscipulon (wrth * glybot hyn) a ddywedent, Calet yw’r ymadrodd hyn: pwy a aill ei glybot? 61Eithyr yr Iesu yn gwybot yndo * ef bot ei ddiscipulon yn murmuro wrth hyn, a ddyvot wrthynt, A ydyw hyn ych rhwystro chwi? 62Beth pe’s gwelech Vap y dyn yn escend i’r lle’r oedd ef * gynt. 63Yr Yspryt yw’r peth a vywha: ny * lesa ’r cnawt ddim: y + geiriae ydd wy vi yn ei ymadrodd wrthych yspryt a’ bywyt ynt. 64Eithyr y mae ’rei o hanoch * ny chredant: can ys‐gwyddiat yr Iesu o’r dechreuat, pa ’rei oeddent a’r ny chredent, a’ pha‐vn y bradychei ef. 65Ac ef a ddyvawt, Am hyny y dywedais wrthych, na aill nep ddyvot ata vi, any’s rhoddir ydd‐aw y gan * vy‐Tat. 66O’r pryd hyny allan yr ymadawodd llawer o ei ddiscipulon, ac ny rodiesont mwy y gyd ac ef. 67Yno y dyuot yr Iesu wrth y dauddec, A wyllysw‐chwithev hefyt vyned ymaith? 68Yno ydd atepawdd Simon Petr yddaw, Arglwydd, at pwy ’r awn? Y mae genyt ’airiae buchedd tragyvythawl: 69ac ydd ym ni yn credu ac yn gwybot may ti yw’r Christ y Map Duw byw. 70Yr Iesu ei hatepodd, Anyd * mi ach detholais chwi ddauddec, ac o hanoch y mae vn yn ddiavol? 71Ac ef ddywedei hyny am Iudas Iscariot ’ap Simon: can ys hwn oedd ai vryd ar y vradychu ef, ac efe yn vn o’r deuddec.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index