Search form

Luc 14

Pen. xiiij.

Yr Iesu yn bwyta y gyd ar Pharisaiait. Yn iachau ’olwy’r dwfr ar y Sabbath. Yu dyscu i ni vod y estyngedic a’ gohawdd y tlodion in bord. Ef yn manegi am y cwynos mawr. Y mae ef yn y rhybyddiaw hwy ymblaenllaw yr ei y dylynant ef am amcanu ei cyfrif o’r blaen beth a gyst yddyn. Halen y ddaiar.

Yr Euangel y xvij. gwedy Trintot.

1AC e ddarvu pan oedd ef wedy myned i tuy vn or pharisaieit pennaf ar y dydd Sabbath, i vwyta * bara hwy y dysgwiliesant ef. 2A’ nycha, geir i vron ydd oedd ryw ddyn claf or + dropsi. 3Yno ’r Iesu a atepodd, ac a lafarodd wrth y + Cyfraithwyr, a’r Pharisaieit, can ddywedyt, Ae rhydd iachay ar y dydd Sabbath? 4A’ thewy a wnaethant wy. Yno ef ei cymerth, ac ei iachodd, ac ei gellyngawdd ymaith, 5ac ei atepawdd hwy, gan ddywedyt, Pwy o hanoch a’s ei asin ne i ych a syrth mewn pwll, ac yn y van ny’s tyn ef allan ar y dydd Sabbath? 6Ac ny allesant * wrthep yddaw am y pethae hynn. 7Ef a ddyvot hefyt parabol wrth y * gohaddwyr pan ddaliawdd val ydd oeddent yn dethawl yr eisteddleoedd vchaf, ac a ddyvot wrthynt, 8Pan ith ’ohoddder gan nep i * neithior, nag eistedd yn y lle pennaf, rac bot vn anrydeddusach na thi wedi ’ohawdd y canto, 9a’ dawot o hwn ath ’ohoddawdd ti ac ef, a’ doedyt wrthyr, Dyro le i hwnn, ac yno dechrae o hanot trwy gywilydd gymeryt y lle isaf. 10Eithyr pan ith ’ohoddir, dos, ac eistedd yn y lle isaf, y n y bo pan ddel yr hwn ath ’ohaddes, ddywedyt wrthyt, Y car, eistedd yn uwch i vynydd: Yno y bydd + clod yt yngwydd yr ein a gydeisteddant a thi. 11Can ys pwy pynac a ymddercha, + ’ostynger, a’ hwnn a ymestwng, a dderchevir.

12Yno y dyuot hefyt ef wrth hwn y gohaddesei ef, Pan wnelych giniaw nei * gwynos, na ’alw dy gereint, n’ath vroder, na’th genedl, n’ath gymydogion goludawc, rac yddynt wy hefyd + dy ’ohawdd dithe drachefyn, a’ chael o hanot ad‐talu ’r pvvyth y‐ty. 13Eithyr pan wnelych ’wledd, galw y tlodion, yr efryddion, yr ei anafus, a’r daillion, 14a’ gwynvydedic vyddy, can na allant ad‐dalu ’r pvvyth y‐ty: can ys * ad‐telir y pvvyth y‐ty yn‐cyuodiadigeth yr ei cyfiawn.

Yr Euangel yr ail Sul gwedy Trintot.

15¶ A’ phan glypu vn o’r ei oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethae hyn, y dyuot wrthaw, Ys gwynvydedic yr hwn a vwyty vara yn‐teyrnas Duw. 16Yno y dyuot ef wrthaw, Ydd oedd gwr a wnai * gwynos mawr, ac ’ohaddawdd laweroedd, 17ac a ddanvones ey was bryd cwynos, y ddywedyt wrth yr ei gohawddedic, Dewch: can ys bot ys awrhon pop peth oll yn parot. 18A’ hvvythe oll * o vn‐vryd a ddechreusont + ymescusodi: Y cyntaf a ddyuot wrthaw, Mi brynais dyddyn, ac mae’n angenrhait i mi vyn’d allan a’ gweled hwnw: atolwc y‐ty, cymer vi yn * escusodol. 19Ac arall a ddyuot, Mi brynais bemp iau o ychen, ac yddwyf yn myn’d i brovio y ’rhe’ini: * adolwc y‐ty, cymer vi yn escusedic. 20Ac arall a’ ddyuot, Mi briodas wraic, ac am hyny ny allaf i ddyuot. 21Ac velly yr adymchwelawdd y gwas hwnw, ac y menagawdd y’w arglwydd y pethae hynn. Yno y digiawdd gwr y tuy, ac y dyuot wrth y gwas, Dos allan ar * ffrwst, ir heolydd ar gwigoedd y dinas, a’ dwc y mewn yma y tlodion, a’r efryddon, a’r * anafuson, a’r daillion. 22A’r gwas a ddyuot, Arglwydd, e ddarvu val y gorchmynaist, ac eto y mae lle. 23Yno y dyuot yr arglwydd wrth y gwas, Dos allan ir prifffyrdd a’r caeae, a’ chympell wy y ddyuot y mywn, yn y lawnwer vy‐tuy. 24Can ys‐dywedaf wrthych na bydd ir vn a’r gwyr hyny a ’ohawddwyt * chwaythy dim om cwynos i. 25Ac ydd oedd torfae mowrion yn myned y gyd ac ef, ac ef a droes ac a ddyuot wrthynt, 26A’s daw nebun at y‐vi, ac eb gasau ei dat, a’ y vam, a’ y wreic a’ y blant, a ’broder a’ chwioredd: ac eto y enaid e hun hefyt, ny ddychon ef vot yn ddiscipul i mi. 27A’ phwy bynac ny ddwc ei * groc a’ dyuot ar vyol, ny ddygon ef vot yn ddiscipul i mi. 28Can ys pwy o hanoch a vei * ar vedr adailiadtwr, nid eistedd yn gyntaf, a’ chyffrif y draul, a oes ganthaw ddigon y’vv * ’orphen, 29rac gwedy darvot iddo ’osot y sail, ac ef eb vot yn able y’w ’orphen, dechreu o bawp oll aei hedrycho, y watwar ef, 30gan ddywedyt, E ddechreuawdd y * gwr hwn adailiat, ac nyd oedd e abl y ’orphen? 31Neu pa Vrenhin yn myned i * wneuthu rhyvel yn erbyn Brenhin arall, nid eistedd i law ’r yn gyntaf, ac ymgygcori, a vydd ef abl a dec mil, y gyfwrdd a hwn ’s’yn dyuot yn y erbyn ef ac vcain‐mil? 32Neu tra vo yntef ym‐pell y wrthaw, ef a ddenvyn gennadwri, ac a ddeisyf arno amodeu tangneddyf. 33Velly yr vn nodd, pwy pynac o hanoch, nyd ymwrthoto ac chymeint oll ar * a vedd, ny aill ef vot yn ddiscipul i mi. 34Da yw ’r halen, eithyr a diflasa’r halen, a pha beth yr helltir ef? 35Nyd yw ef * wrteithus nac i dir, nac i domen, and ei davlu allan a wnant. Hwn ’sy iddaw glustiae i glybot clywet.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index