Search form

Luc 18

Pen. xviij.

Wrth esempl y ’weddw, a’r Publican y dysc Christ pa wedd y mae gweddiaw. Wrth esempl y plantos yr eiriol ef vaylldot. Am y ffordd y byddir cadwedic, a’ pha bethae a ’rwystrant. Y gwebyr addawedie ir ei yddo ef, Ac am y groes.

1AC ef a ddyuot hefyt barabol wrthynt, ys ef i hyn, y * dylynt weddiaw yn ’oystat, ac eb ddefficiaw, 2gan ddywedyt, Ydd oedd brawdwr yn‐ryw ddinas, yr hwn nid ofnei Dduw, ac ny pharchei ddyn. 3Ac ydd oedd gvvraic‐gweddw yn y dinas hono, yr hon a * ddoy attaw, gan ddywedyt, * Gwna i mi gyffiawnder yn erbyn vy‐gwrthnebwr. 4Ac ny’s gwnai ef dros hir amser: ac wedy hyn y dyuot yntho ehun, Cyd nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn, 5eto can vot y ’weddw hon yn vy molestu, gwnaf iddi gyfiawnder, rac o’r dywedd y ddi vy + sevrddanu. 6A’r Arglwydd a ddyuot, Clywch pa beth ddywait y brawdwr + ancyfiawn. 7Ac a ny ddial Duw ei + ddetholedigion, ysy yn llefain arnaw ddydd a’ nos, + cyd bo ef yn + ohirddig + drosdynt? 8Dywedaf ychwy, taw y dial ef hwy yn + glau. Eithyr pan ddel Map y dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaiar?

Yr Euangel y xi. Sul gwedy Trintot

9¶ Ef a ddyuot y * parabol hwn wrth y’r ei oedd ei ymddiriet arnyn ehunain ey bot yn gyfiawn, ac yn * diystyry yreill, 10Deu‐wr a escenesont ir Templ i weddiaw: vn Pharisai, a’r llall Publican. 11Y Pharisai oei sefyll a weddiawdd val hyn wrthaw ehun, Duw, diolchaf y‐ty nad wyf mal y dynion ereill, yn * gribdeilwyr yn ancyfiawnion, yn ’odinebwyr, ai mal y Publican hwn. 12Ydd wyf yn vmprydiaw ddwywaith yn yr wythnos: ddwyf yn decemy cymeint oll a veddaf. 13Anid y Publican yn sefyll o hirbell, ny dderchavei na ei * ’olygon tu ar nef, an’d curo ey ddwyvron can ddywedyt, Duw, trugarha wrthyf bechatur. 14Ys dywedaf wrthych, e ddescennawdd y dyn hwn y’w duy wedy ei gyfiawnhay, yn vwy na’r llall: Can ys pwy bynac a ymdderchaif, a ’oystynger, a’ hwn a ymestwng, a dderchefir,

15Ac wy dducesont ataw * ’r ’ei bychein, val y bei yddo ei cyvwrdd. A’ phan ei gwelawdd, ei ddiscipulon, ei ceryddu * aorugant. 16A’r Iesu ai galwawdd wy ataw, ac a ddyuot, Gedwch i’r bechcenot ddyuot atafi, ac na ’oherddwch wy: can ys ir cyfryw * y mae teyrnas Duw. 17Yn wir y dywedaf wrthych, pwy bynac ny dderbynio deyrnas Duw val bachcenyn, ny bydd iddo vyned oei mywn hi. 18Yno y gofynnawdd ryw lywiawdr iddaw, gan ddywedyt, Athro da, pa beth ’sy imi y’w wneuthur, i veddu bywyt tragyvythawl? 19A’r Iesu a ddyuot wrthaw, Paam ym gelwy vi yn dda? nyd da nebun dyeithr vn, ’sef Duw. 20Y gorchmynnion awyddost, Na * wna obineb: Na ladd gelain: Na latrata: Na ddwc ffalstestiolaeth: Anrydedda dy dat a’th vam. 21Ac ef a ddyuot, Hyn oll a gedweis o’m ieunctit. 22Gwedy clybot o’r Iesu hyn, y dyuot wrthaw. Etwo mae yti vn peth yn eisiae. Gwerth cymmeint oll ac ys‐y * ar dy helw, a’ chyfrana i’r tlodion, a’ thi gai dresawr yn y nef, a’ dyred, dilin vi. 23An’d pan glybu ef y pethe hyny, bod yn * drathrista or ug ef: can ys-goludawc aruthr y doedd. 24A’ phan y gwelas yr Iesu y vot ef yn drathrist, y dywedawdd, Pa’nd anhawdd ir ei ’sy a golud yddynt vyned i deyrnas Duw? 25Can ys‐* hawsach i gamel vyned trwy grau nodwydd ddur, nag i ’oludawc vyned i deyrnas Duw. 26Yno y dywedynt yr ei ai clybu, A phwy ynte a aill vot yn gatwedic? 27Ac ef a ddyuot, Y pethae ys‐y + ampossibil y gyd a dynion, ’sy possibil y gyd a Duw.

28Yno y dyuot Petr, * Nacha, ys gadawsam ni y cvvbl oll, ac ath ddylynesam di. 29Ac ef a ddyuot wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid oes vn a’r a adawodd duy, neu rieni, neu vroder, neu wreic, neu blant, * o bleit teyrnas Duw, 30a’r ny’s derbyn vwy o lawer yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw buchedd dragyvythawl.

Yr Euangel ar Sul Quinquagesima.

31Yno y cymerth yr Iesu ataw y deuddec, ac a ddyuot wrthynt, Nycha, ni yn mynet i vyny i Caerusalem, ae a gyfiawnir i vap y dyn bop peth, ys y yscrivenenedic * can y Prophwyti. 32Can ys ef a roddir ir Cenetloedd, ac a ef watworir, ac a geblir, ac a boerir arnaw. 33A’ gwedy yddynt y yscyrsiaw ef, wy ei lladdant: anid ef a gyvyt y trydydd dydd drachefyn. 34Ac wy ny ni ddyallesont ddim or pethae hyn, ac ydd oedd y gair hwn yn guddiedic rhacddynt vvy, ac ny wybuont y pethae a ddywedesit. 35Ac e ddarvu, ac ef yn dynesay at Iericho, bot ryw ddyn dall yn eistedd ar emyl y ffordd, yn cardota. 36A’ phan glywodd ef y popul yn myned heibio, e ymovynodd beth oedd hynny. 37Ac wy a ddywedesont yddaw, mae’r Iesu o Nazaret oedd yn mynet heibio. 38Ac ef a lefawdd ac a dyuot, Iesu vap Dauid, trugarha wrthyf. 39A’r ei oedd yn mynet o’r blaen, y ceryddent ef, y dewi a son. Ac ef a levawdd vwyvwy, Map Dauid, trugarha wrthyf. 40A’r Iesu a savodd, ac a ’orchymynawdd ei ddwyn ef attaw. A gwedy y ddawot ef yn nes, e ovynnawdd ydd‐aw, 41can ddywedyt, Beth a vynny imi wneythyd y ty? Ac ef a ddyvot, Arglwydd, cahel‐vy‐golwc. 42A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Cymer dy olwc: dy ffydd ath iachaawdd. 43Ac yn ebrwydd y cavas ei olwc, ac y * canlynawdd ef, gan roddy gogoniant y Dduw: a’r oll popul, pan welsont hyn a roesont voliant i Dduw.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index