Search form

Marc 8

Pen. viij.

Miracl y saith torth. Y Pharisaiait yn erchi arwydd. Surdoes y Pharisaiait. Y dall yn derbyn ei ’olwc. Ei adnabot gan ei ddiscipulon. Ef yn ceryddy Petr. Ac yn dangos mor angenraid yw bot ymlid a’blinderwch.

Yr Euangel y vij. Sul gwedy Trintot.

1YN y dyddyae hyny, pan oedd tyrva dra‐mawr ac eb gantwyut ddim yw vwyta, yr Iesu a ’alwawdd ei ddiscipulon ataw, ac a ddyvot wrthwynt, 2Ydd wyf yn tosturiaw wrth y tyrfa, can ys yddwynt aros y gyd a mi er ys tri‐die, ac nid oes Ganthwynt dim yw vwyta. 3Ac a’s anvonaf wy ymaith * eb vwyt y’w teie ehunain, wy loysygant ar y ffordd: can ys yr ei o hanaddynt a ddeuthant o bell. 4Yno ydd atepawdd ei ddiscipulon iddo, * Pawedd y dychon dyn borthy ’r ei hynn a bara yma yn y diffeith? 5Ac ef a o vynnawdd yddwynt, Pasawl torth ys ydd genwch? Ac wy a ddwedesont, Saith. 6Yno y gorchymynawdd ef yr tyrfa eistedd ar y ddaear: ac ef a gymerawdd y saith torth, ac wedy iddo ddiolvvch, eu torawdd, ac eu rhoddes * y’w ddiscipulon yw gesot geyr eu bron, ac wy ei gesodesont geyr bron y popul. 7Ac ydd oedd ganthwynt ychydic pyscot bychain: ac wedy iddo * + vendithiaw, ef archawdd yddwynt hefyd ei gesot geyr eu bron. 8Ac wy a vwytesont, ac a gawsont digon, ac wy a godesont o’r briwvwyt oedd yn‐gweddill, saith basgedeit, 9(a’r ei vysent yn bwyta, oedd yn‐cylch pedeir‐mil) ac velly ef yd anvonawdd wy ymaith.

10Ac * ar hynt ydd aeth ef i long gyd ei ddiscipulon, ac y ddaeth i barthae Dalmanutha. 11A’r Pharisaiait a ddaethan allan, ac a ddechreusont * ymddadle ac ef, gan geisiaw gantaw arwydd o’r nef, a’ chan ei demptio. 12Yno yr * vcheneiddiodd ef yn ddwys: yn ei yspryt, ac y dyuot. Pa geisio arwydd y mae’r genedleeh hon? Yn wir y dywedaf y chwi, na’s rhoddir arwydd ir genedlaeth hon.

13Ac ef y gadawodd wy, ac aeth i’r llong drachefyn, ac a dynnodd ymaith dros y dwfr.

14Ac anghofio a wnaethent gymeryd bara, ac nid oedd ganthwynt amyn vn dorth yn y llong. 15Ac ef a orchmynawdd yddynt gan ddywedyt, Gwiliwch, ac ymogelwch rac * leven y Pharisaieit, a’ rac leven Herod. 16A’ resymy a wnaethant wrth ei gylydd, gan ddywedyd, Hyn ’sy can Nyd oes ddim bara genym. 17A’ phan ei gwybu ’r Iesu, y dyvot wrthwynt, Pa resymy ddych velly, can na’d oes genwch vara? a nyd ychvvi yn synniaw etwa, nag yn deally? A ytyw eich calonae eto genwch wedy ’r * argaledu? 18Oes llygait genwch ac ny chanvyddwch? ac oes i chwi glustiae, ac ny chlywch? Ac any ddaw yn eich cof? 19Pan doreis y pemp torth ym‐plith pempmil, pa sawl bascedeit o vriwvwyt a godesoch? Dywedesont wrthaw, Dauddec. 20A’ phan doreis saith ymplith pedeir mil, pa sawl bascedeit gvveddi ll o vriwfwyt a godesoch? Dywedesont wythae, Saith. 21Yno y dyvot ef wrthwynt, P’wedd yvv na * ydyellwch? 22Ac ef a ddaeth i Bethsaida, ac wy a dducesont ataw ddall, ac a ei gweddieson ar iddo y gyfwrdd ef. 23Yno y cymerawdd ef y dall * erbyn, ei law, ac ei tywysawdd allan o’r dref, ac a boyrawdd yn ei lygait, ac a * ’osodes ei ddwylaw arno, ac a ovynawdd iddaw a welei ef ddim. 24Ac ef a edrychodd i vynydd, ac a ddyuot, Mi welaf ddynion: can ys gwelaf wy yn * gorymddaith, mal petyn breniae. 25Gwedy hyny, y gesodes ef, ei ddwylo drachefyn ar y lygait ef, ac y parawdd iddo + edrych-drachefn. Ac ef a edverwyt iddo ei olvvc, ac ef a welawdd bavvp oll o bell ac yn eglaer. 26Ac ef a ei danvonawdd ef a‐dref y’w duy, gan ddywedyt, Ac na ddos ir dref, ac na ddywait i nep yn y dref. 27A’r Iesu aeth allan, ef a ei ddiscipulon i Caesarea Philippi. Ac ar y ffordd yr ymovynnawdd ef a ei ddiscipulon, gan ddywedyt wrthynt, Pwy’n medd dynion ytwy vi? 28Ac wy a atebesont, yr ei a ddvvvait mai Ioan Vatydiwr: a’r ei, Elias: a’r ei mai vn o’r Propwyti. 29Ac ef a ddyvot wrthynt, A’ phwy’n meddw‐chwi ytwy vi? Yno ydd atepawdd Petr ac y ddyuot wrthaw, Tydy yw’r Christ. 30Ac ef a ’orchymynawdd yn * gaeth yddynt na vanegent hyny i nep am danaw. 31Yno y dechreawdd ei dyscy y byddei ddir y Vap y dyn ddyoddef llawer o bethæ, a’ ei * argyweddy y gan yr Henaifieid, a chan yr Archoffeiriait a’r Gwyr‐llen, a’ chael ei ladd, ac o vewn tri dic‐yfody drachefyn. 32Ac ef a adrodes y * peth hyny yn ’olae. Yno y cymerth Petr ef or ailltu, ac a ddechreodd * roi iddo sen. 33Yno ydd ad ymchoelawdd ef, ac ydd edrychawdd ar ei ddiscipulon, ac yrrhoes‐sen i Petr, gan ddywedyt, Tynn * ar v’ol i Satan: can na synny bethae Duw, eithr pethae dynion.

34A’ gwedy iddo ’alw y * werin attaw gyd aei ddiscipulon, a’ dywedyt wrthynt, Pwy pynac a wyllysa ddyvot ar v’ol i, ymwrthodet ac ef yhun, a’ chymered i vyny ei groc, a’ dylynet vi. 35Can ys pwy pynac a ewyllysa gadw ei einioes, + ei cyll: a’ phwy pynac a gyll ei * einioes er vy mwyn i a’r Euangel, ef ei caidw. 36Can ys pa les i ddyn, er enill yr oll vyt, a ’cholly ei enaid? 37 Ai pa peth a rydd dyn yn * ymdal dros ei eneit? 38Can ys pwy pynac a wrido om pleit i, n’am geiriae ym‐plith yr ’odinebus a’r bechadurus genedlaeth hon, o bleit * yntef y + gwrida Map y dyn hefyt, pan ddel yn‐gogoniant ei Dat y gyd a’r Angelion sainctus.

Testament Newydd Salesbury - Argraffiad 1850

© Cymdeithas y Beibl 2017

© British and Foreign Bible Society 2017

More Info | Version Index