Search form

Y Salmau 101

SALM CI

Misericordiam.

Dafydd yn dangos trefn a rheol ei dy: sef gyrru ymaith y rhai drwg, ac yn mawrygu y da.

1Datcanaf drugaredd a barn,

i’r Arglwydd cadarn canaf.

2Byddaf ddeallus mewn ffordd wych,

hyd oni ddelych attaf.

A rhodiaf yn fy nhy yn rhwydd,

a thrwy berffeithrwydd calon.

3Pob peth drwg sydd gennif yn gâs,

a childyn ddyrras ddynion.

4Calon gyndyn ynof ni bydd,

drwg weithydd ni ’dnabyddaf.

5Sclandrwr dirgel, a’r balch uchel

o’r achos ni oddefaf.

6Ar ffyddloniaid mae ’ngolwg i,

fe lyn y rhei’ni wrthy’:

7A’r hwn a rodio mewn ffordd dda,

hwn a wasnaetha ymmy.

8Ni chaiff aros o fewn fy nhy,

un dyn ac sy dwyllodrus,

Yn fy ngolwg un dyn ni bydd,

a lunio gelwydd trefnus.

9Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,

yn forau ymaith torraf:

Fel da ddelont i ddinas Dduw,

y cyfryw a ddiwreiddiaf.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index