Y Salmau 102
SALM CII
Domine exaudi.
Gweddi y ffyddloniaid yn amser caethiwed Babel.
1O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,
a doed fy nghri hyd attad:
2Na chudd d’wyneb mewn ing tra fwyf,
clyw, clyw, pan alwyf arnad.
3Fy nyddiau aethant fel y mwg,
sef cynddrwg im cystuddiwyd:
Fy esgyrn poethant achos hyn,
fal tewyn ar yr aelwyd.
4Fy nghalon trawyd â chryn iâs,
ac fel y gwelltglas gwywodd:
Fel yr anghofiais fwyta ’mwyd
dirmygwyd fi yn ormodd.
5Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,
gan faint fy mhoen a’m tuchan.
6Fel un o’r anialwch, lle y trig
y pelig, neu’r dylluan.
7Neu fel un o adar y to,
a fai yn gwilio ’i fywyd,
Yn rhodio ’n unic ben y ty:
wyf anhy ac anhyfryd.
8Fy ngelynion â thafod rhydd,
hwy beunydd a’m difenwant:
A than ynfydu yn ei gwyn,
i’m herbyn y tyngasant.
9Fel llwch a lludw yn fy mhla,
fu’r bara a fwyteais:
Yr un wedd yn y ddiod fau
fy nagrau a gymysgais.
10A hyn fu o’th ddigofaint di,
am yt’ fy nghodi unwaith:
Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,
i’r llawr i’m teflaist eilwaith.
11Fy nyddiau troesant ar y rhod,
ac fel y cysgod ciliant:
A minnau a wywais achos hyn,
fel y glaswelltyn methiant.
12Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,
a barhei yn dragwyddol,
O oes i oes dy enw a aeth
mewn coffadwriaeth grasol.
13O cyfod bellach trugarhâ,
o Dduw bydd dda wrth Sion:
Mae’n fadws wrthi drugarhau,
fel dyma’r nodau’n union:
14Cans hoff iawn gan dy weision di,
ei meini a’i magwyrau,
Maent yn tosturio wrth ei llwch,
a’i thristwch, a’i thrallodau.
15Yno yr holl genhedloedd byw
yr Arglwydd Dduw a ofnant:
A’r holl frenhionedd trwy y byd,
a ront yt gyd-ogoniant.
16Pan adeileder Sion wych,
a hon yn ddrych i’r gwledydd:
Pan weler gwaith yr Arglwydd ne’,
y molir e’n dragywydd.
17Edrychodd hwn ar weddi’r gwael,
rhoes iddynt gael ei harchau:
18Scrifennir hyn: a’r oes yn ol
a gaiff ei ganmol yntau.
19Cans Duw edrychodd o’r nef fry,
ar ei gyssegrdy, Sion:
20Clybu ei griddfan, er rhyddhau
plant angau ’i garcharorion.
21Fel y cydleisient hwy ar gân,
yn Seion lân, ei foliant:
Ac ynghaer-Salem yr un wedd,
ei fowredd a’i ogoniant.
22Hyn fydd pan gasglo pawb ynghyd,
yn unfryd iw foliannu:
A’r holl dyrnasoedd dont yngwydd
yr Arglwydd, iw wasnaethu.
23Duw ar y ffordd lleihâdd fy nerth,
byrrhâdd fy mrhydferth ddyddiau:
A mi’n disgwyl rhyddhâd ar gais,
24yno y dywedais innau.
O Dduw na thorr fy oes yn frau,
ynghanol dyddiau f’oedran:
Dy flynyddoedd di sydd erioed,
o oed i oed y byddan.
25Di yn y dechrau dodaist sail,
odd’ isod adail daiar:
A chwmpas wybren uwch ein llaw,
yw gwaith dy ddwylaw hawddgar.
26Darfyddant hwy, parhei di byth,
treuliant fel llyth trwssiadau.
27Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnant,
felly newidiant hwythau:
Tithau Arglwydd, yr un wyt ti,
a’th flwyddau ni ddarfyddant.
28Holl blant dy weision gar dy fron,
a’i hwyrion a bresswyliant.