Search form

Y Salmau 111

SALM CXI

Confitebor tibi.

Y mae efe yn y psalm hon yn diolch i Dduw am ei aml weithredoedd da i’r eglwys, gan ddangos beth yw iawn ddoethineb a gwybodaeth.

1Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,

o wyllys calon hollawl,

Mewn cynnulleidfa gar eu bron,

mewn tyrfa gyfion rasawl.

2Mawr iawn yw gwrthiau’n Arglwydd ni

hysbys i bawb a’i hoffant.

3Ei waith a’i iownder pery byth,

a’i wehelyth ogoniant.

4Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,

am ryfeddodau nerthol.

Cans Arglwydd nawdd-fawr yw i ni,

llawn o dosturi grasol.

5Ef i bob rhai a’i hofnant ef,

rhydd gyfran gref at fywyd:

Ac yn dragywydd y myn fod

cof o’i gyfammod hefyd.

6Mynegodd ef iw bobl i gyd,

gadernyd ei weithredoedd:

A rhoddi iddynt hwy a wnaeth

’tifeddiaeth y cenhedloedd.

7Gwirionedd a barn ydyw gwaith

ei ddwy law berffaith efo:

A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,

a da y gwnawn eu gwrando.

8Y rhai’n sy gwedi eu sicrhau,

dros byth yn ddeddfau cyfion:

Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,

a thrwy wirionedd union.

9Anfonodd gymmorth iw bobl ef,

cyfammod gref safadwy:

Archodd hyn: bo iw enw sawl,

sancteiddiawl ac ofnadwy.

10Dechreuad pob doethineb ddofn

i bawb yw ofn yr Arglwydd,

Da yw deall y sawl a’i gwnai,

a’i ofn a sai’n dragywydd.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index