Search form

Y Salmau 127

SALM CXXVII

Nisi Dominus.

Nad synwyr dyn na’i boen,

ond trugaredd Duw, sy yn cadw, ac yn dwyn i ben bob peth.

1Y ty ni adeilado’r Ner,

ai’n ofer gwaith y saeri:

A’r ddinas hon nis ceidw efo,

ni thyccia gwilio ynthi.

2Is borau godi, os hun hwyr,

a byw drwy llwyr ofidio,

Ofer i gyd: Duw a rydd hun

i bob rhyw un a’i caro.

3Wele, y plant a roir i ddyn,

hiliogaeth yn i’r Arglwydd:

Ac o’i rodd ef daw ffrwyth y bru,

iw magu mewn sancteiddrwydd.

4Fel gwr cryf, ple bynnag y daw,

ac yn ei law ei saethau:

Plant yr ieuenctyd felly y maen

yn barch o flaen y tadau.

5Sawl honynt sydd a’i gwifr yn llawn,

mae’n ddedwydd iawn ei foddion:

Hwy nis gwradwyddir pan ddel man

i’mddiddan â’r gelynion.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index