Search form

Y Salmau 14

SALM XIV

Dixit insipiens.

Yn erbyn traha ar Dduw, a dynion.

1Fe ddwedai’r ynfyd nad oes Duw,

ac felly byw drwy goegni,

Ymlygru’n ffiaidd, ni chais gel:

nid oes a wnel ddaioni.

2O’r nef yr edrychodd yr Ion

ar holl drigolion daear,

A roddai neb ei goel a’r Dduw,

a cheisio byw’u ddeallgar.

3Fe giliodd pawb at lygredd byd,

ymdroent i gyd mewn brynti:

Nid oes un a wnel well nâ hyn,

nac un a fyn ddaioni.

4Eu gwddf sy fedd agored cau

maent â thafodau ’strywgar.

A gwenwyn lindis sy’n parhau

dan eu gwefusau twyllgar.

5A’i genau llawn (fel gwenwyn llith)

o felldith, ac o fustledd:

Ac anian esgud yw eu traed

i dywallt gwaed a dialedd.

6Distryw ac anhap sy’n eu ffyrdd

ni’ dwaenant briffyrdd heddwch:

Nid oes ofn Duw’n eu golwg hwy,

ni cheisiant mwy ’difeirwch.

7Pam? oni wyddant hwy eu bod

drwy bechod, y modd yma,

Yn ysu fy mhobl a’i cildroi,

un wedd a chnoi y bara?

8Gweddio’r Arglwydd hwy ni wnânt,

yn hyn dychrynant luoedd:

Am fod Duw’n dala gydâ’r iawn,

yn un a’r cyfiawn bobloedd.

9Gwradwyddech gynt gyngor y tlawd

fal y gwnewch drallawd etto:

Am i’r tlawd gredu y doe llwydd

oddiwrth yr Arglwydd iddo.

10Pwy a all roi i Israel,

o Sion uchel iechyd?

Pwy ond ein Duw? yr hyn pan wnel,

bydd Iago ac Israel hyfryd.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index