Search form

Y Salmau 143

SALM CXLIII

Domine exaudi.

Gweddi am faddeuant pechodau. Dymuno cael ei dderbyn i drugaredd, a chael Yspryd Duw iw gadw hyd ddiwedd ei fywyd.

1Erglyw fy arch, o Arglwydd mâd,

wyf arnad yn gweddio:

O’th wirionedd, a’th gyfiownedd,

gofynnaf yt fy ngwrando.

2Ac na ddos i’r farn â’th wâs gwael,

(pa les i’m gael cyfiownder?)

Am nad oes dyn byw gar dy fron

yn gyfion pan ei teimler.

3Y gelyn a erlidiodd f’oes,

mewn llwch i’m rhoes i orwedd:

Fal y rhai meirwon a fai’n hir,

is tywyll dir a’i hannedd.

4Yna fy ysbryd, mewn blin ing,

a fu mewn cyfing-gyngor:

5Ac ar fy nghalon drom daeth braw:

ond wrth fyfyriaw rhagor.

Mi a gofiais y dyddiau gynt,

a helynt gwaith dy ddwylo:

Am hyn myfyriais, fy Nuw Naf,

am hyn myfyriaf etto.

6Fy nwylaw attad rhois ar led,

lle y mae f’ymddiried unig:

Am danad f’enaid sydd yn wir,

un wedd â’r tir sychedig.

7Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,

o Arglwydd, pallodd f’yspryd:

Rhag imi fyned i’r pwll du,

fel rhai a ddarfu eu bywyd.

8Par i’m ar frys glywed dy nawdd,

cans ynot hawdd y credais:

A dysg i’m rodio dy ffyrdd rhâd,

cans f’enaid attad codais.

9A gwared fi fy Nuw, a’m Ion,

rhag fy ngelynion astrys:

Am fod fy lloches gydâ thi:

10o dysg i mi d’ewyllys:

Cans tydi ydwyt y Duw mau,

boed d’ Yspryd tau i’m tywys

Ar yr uniondeb yn y tir,

dyma dy wir ewyllys.

11Duw, er mwyn d’enw fi bywhâ,

a helpa f’enaid tyner:

Allan o ing Duw cais ei ddwyn,

ac er mwyn dy gyfiownder.

12A gwna ar yr elynol blaid,

caseion f’enaid, gerydd:

Difetha hwynt er mwyn dy râs,

cans mi wyf dy was ufydd.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index