Search form

Y Salmau 22

SALM XXII

Deus, Deus meus.

Prophwydoliaeth o ddioddefaint Christ, a’i weddi dros yr eglwys, a’i swyddau tragwyddol, yn brophwyd, yn offeiriad, yn frenin.

1Dangos fy Nuw, fy Nuw, a’m grym,

ba achos ym gadewaist.

Pell wyd o’m iechyd, ac o nâd

fy ’mloeddiad, llwyr i’m pellaist.

2Fy Nuw ’rwy’n llefain, tithau heb

roi ym’ mor atteb etto,

Bob dydd a nos mae ’nghri’n diffael,

a heb gael mo’m dihuddo.

3A thi wyd sanct, sanct i barhau,

lle daw gweddiau’n wastad:

A holl dy Israel a’i clod,

a’i pwys a’i hystod attad.

4Yno’t gobeithiai’n tadau ni,

a thydi oedd eu bwccled:

Ymddiried ynot: Arglwydd hael,

ac felly cael ymwared.

5Llefasant drwy ymddiried gynt,

da fuost iddynt: Arglwydd:

Eu hachub hwynt a wnaethost di

rhag cyni a rhag gwradwydd.

6Fo’m rhifir innau megis pryf,

nid fel gwr cryf ei arfod:

Fel dirmyg dynion, a gwarth gwael

A thybiant gael eu hystod.

7Pawb a’m gwelent, a’m gwatworent,

ac a’m min-gamment hefyd,

Ysgwyd eu pennau yn dra hy,

a chwedi hynny dwedyd,

8Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred,

doed ef iw wared allan,

Os myn ei ollwng ef ar led,

cymered iddo ei hunan.

9Duw tynnaist fi o groth fy mam,

rhoist ynof ddinam obaith,

Pan oeddwn i yn sugno hon,

ac o’i dwy fron am harchwaith.

10Arnat ti bwriwyd fi o’r bru,

arnat ti bu fy ’mddiried:

Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,

ffyddiais yt am fy ngwared.

11Oddiwrthif fi yn bell na ddos,

tra fo yn agos flinder,

I’m cymorth i, gan nad oes neb

a drotho’i wyneb tyner.

12Bustych lawer, a chryfion iawn,

daethant yn llawn i’m gogylch.

A theirw Basan o bob parth,

yn codi tarth o’m hamgylch.

13Egorant arnaf enau rhwth

i’m bygwth, fel y llewod,

A faent yn rhuo eisiau maeth,

o raib ysclyfaeth barod.

14Fel dwfr rwyfi yn diferu’n chwyrn,

a’m hesgyrn, sigla’r rhei’ni:

Fy nghalon o’m mewn darfu’n llwyr,

fel cwyr a fai yn toddi.

15Fel priddlestr mae fy nerth mor swrth,

ynglyn wrth fy ngorchfanau

Mae fy nhafod, yr wyf mor drwch,

fy nghyfle yw llwch angau.

16Cans cwn cylchasant fi, fy Ner,

a chadfa sceler ddiffaith:

Cloddiasant fy nwy law a’m traed,

Ac felly gwnaed fy artaith.

17A rhifo fy holl esgyrn i,

gan gulni hawdd y gallaf,

Maent hwythau’n gweled hynny’n wych,

bob tro yn edrych arnaf.

18Rhyngthynt iw mysg y dillad mau

yn rhannau dosbarthasant,

A hefyd ar fy mrhif-wisc i

coelbrenni a fwriasant.

19Tithau fy nerth a’m harglwydd da,

nac ymbellâ oddiwrthy,

O bryssia, tydi yw fy mhorth,

a thyr’d a chymorth ymy.

20O dyr’d, ac achub yr oes fau

rhag ofn y cleddau ffyrnig,

A gwared o feddiant y ci

fy enaid i sy’n unig.

21Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,

dwg o’i safn rhwth fy enaid,

Achub a gwrando fi yn chwyrn

rhag cyrn yr unicorniaid.

22Mynegaf finnau d’enw yn bur

i’m brodur yn yr orsedd,

Lle mwya’r gynulleidfa lân,

dy glod a wna’n gyfannedd.

23Hâd Iaco ac Israel, chwychwi

rhai ych yn ofni’r Arglwydd,

Drwy ofn y rhowch iddo foliant,

a rhowch ogoniant ebrwydd.

24Cans ni’ch llysodd, ni’ch dirmygodd,

ni chuddiodd ei wynebpryd,

Eithr gwrandawodd weddi y gwan,

a’i duchan yn ei adfyd.

25Honot ti bydd, ac i ti gwedd

mewn aml orsedd fy moliant.

I Dduw rhof f’addunedau’n llon

gar bron y rhai a’i hofnant.

26Diwellir y tlodion:

a’r rhai a geisiai yr Arglwydd

A’i molant ef, fo gaiff (gwir yw)

eich enaid fyw’n dragywydd.

27Trigolion byd a dront yn rhwydd

at yr Arglwydd pan gofiant:

A holl dylwythau’r ddaear hon

dônt gar ei fron, ymgrymant.

28Cans yr Arglwydd biau’r dyrnas,

a holl gwmpas y bydoedd:

Ac uwch eu llaw, ef unig sydd

ben llywydd y cenhedloedd.

29Y cyfoethogion a fwytânt,

addolant yn eu gwynfyd:

Rhai a ânt i’r llwch gar ei fron,

a rhai, braint meirwon hefyd.

30Y rhai’n oll a’i hâd, yn un fryd

gwnânt iddo gyd wasanaeth:

A’r rhai’n i’r Arglwydd drwy’r holl dir

a rifir yn genhedlaeth.

31Dont, dangosant ei uniondeb

y rhai sydd heb eu geni:

Hyn a addawodd, ef a’i gwnaeth,

hynny a ddaeth o ddifri.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index