Search form

Y Salmau 35

SALM XXXV

Indica me Domine.

Dafydd yn gweddio am ddial ar weinieithwyr Saul, y rhai a’i herlidient, a thros ei gyfeillion ef. Ac yn addaw moli Duw yn dragywydd.

1Pleidia (o Arglwydd) yn fy hawl,

â’r sawl a dery’n ferbyn:

Lle’r ymrysonant â myfi,

ymwana di â’r gelyn.

2Mae dy gymorth: o moes ei gael,

ymafael yn y tarian:

O cyfod cais dy astalch gron,

a dwg dy waywffon allan.

3Argaua ar y rhai sy ar gam,

i’m herlid am fy mywyd:

Wrth fy enaid, dywaid fel hyn,

fy fi a fynn yt’ iechyd.

4Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd,

a geisio ladd fy enaid:

A thrwy gywilydd troed iw hol

y ffals niweidiol gablaid.

5Fel yr us o flaen gwynt y bon’:

Angel yr Ion i’w chwalu:

6A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,

a hwn wrth gefn iw gyrru.

7Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,

a wnaethbwyd ym heb achos:

Heb achlysur, maglau a wnaid

i’m henaid yn y cyfnos.

8O deued, cwymped yn ei rwyd,

yr hon a guddiwd allan:

Syrthied a glyned iw delm rwyll,

a’i drapp o’i dwyll ei hunan.

9Eithr am fy enaid i (Amen)

bid llawen yn yr Arglwydd:

Fe a fydd hyfryd gantho hyn,

lle daw i’r gelyn aflwydd.

10O Arglwydd dywaid f’esgyrn i,

pwy sydd a thi un gyflwr?

Rhag ei drech yn gwared y gwan,

a’r truan rhag ei ’speiliwr.

11Tystion gau a godent yn llym,

a holent ym’ beth anfad:

12Drwg ym’ dros dda talent heb raid,

a’m henaid braint ymddifad.

13Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf,

rhown i’m nesaf liein-sach:

Drwy hir ymostwng ac ympryd,

cymrais fy myd yn bruddach,

Yr un dosturiol weddi fau,

a ddaeth o’m genau allan,

A droes eilwaith (er fy lles)

i’m mynwes i fy hunan.

14Mi a ymddygais mor brudd dlawd,

fel am fy mrawd neu ’nghymar:

Neu fel arwyl dyn dros ei fam,

ni cherdda’i gam heb alar.

15Hwythau yn llawen doent ynghyd,

pan bwysodd adfyd attaf:

Ofer ddynion, ac echrys lu

fyth ym mingammu arnaf.

16Rhai’n rhagrithwyr, rhai’n watworwyr,

torrent hwy eiriau mwysaidd:

Hwy a ’sgyrnygent arnaf fi,

bob daint, a’r rheini’n giaidd.

17Arglwydd edrych, ow pa ryw hyd

yw’r pryd y dof o’i harfod?

Gwared fy enaid rhag y bedd,

f’oes o ewinedd llewod.

18Minnau a ganaf i ti glod,

lle bo cyfarfod lluoedd:

Ac a folaf dy enw a’th ddawn,

wrth lawer iawn o bobloedd.

19Na fydded lawen fy nghâs ddyn,

i’m herbyn heb achossion:

Ac na throed (er bwriadu ’mrâd)

mo gwr ei lygad digllon.

20Nid ymddiriedant dim mewn hedd,

dychmygant ryfedd gelwydd:

Dirwyn dichell, a gosod cryw

i’r rhai sy’n byw yn llonydd.

21Lledu safnau, taeru yn dyn,

a dwedyd hyn yn unblaid,

Fei ffei ohonot, hwnt a thi,

ni a’th welsom ni â’n llygaid.

22Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn,

mor daer yn f’erbyn fuon:

Ac na ddos oddiwrthif ymhell,

rhag dichell fy nghaseion.

23Cyfod, deffro, fy Nuw i’m barn,

yn gadarn gydâ’m gofid:

24Dydi a fynni’r uniondeb,

ni watwar neb o’m pledig.

25Na âd i’r gelyn calon wael

ddiweddu cael i wynfyd:

Na rhodresu fy llyncu’n grwn,

llyncaswn hwn yn ddybryd.

26Gwarth a gwradwydd iddynt a ddel

sy’n codi uchel chwerthin:

Gwisger hwynt â mefl ac â chas,

sydd ym alanas ryflin.

27Llawen fo’r llaill a llawn o glod,

sy’n coelio ’mod yn gyfion.

Dwedant, bid i’n Duw ni fawrhânt,

am roi llwyddiant iw weision.

28Minnau fy Arglwydd gyda’r rhai’n,

myfyriaf arwain beunydd

Dy gyfiownder di, a’th fawr glod,

â’m tafod yn dragywydd.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index