Search form

Y Salmau 37

SALM XXXVII

Noli emulari.

Pob peth a roddir i’r nêb a garo ac a ofno Dduw, ond er i’r annuwiol lwyddo dros amser, etto hwy a ddarfyddant.

1Na ddala ddrygdyb yn dy ben,

nac o gynfigen ronyn,

Er llwyddo’r enwir, a wnai gam:

cai weled llam yn canlyn.

2Sef hwy a dorrir fel gwellt glâs,

neu lysiau diflas gwywon:

A hwy a grinant yn ddilwydd,

a hynny’n ebrwydd ddigon.

3Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,

gobeithia yr hyn gorau:

Bydd ymarhous yn y tir,

di a borthir yn ddiau.

4Bydd di gysurus yn dy Dduw,

di a gei bob gwiw ddymuniad:

5Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilys

fe rydd d’ewyllys attad.

6Cred yntho ef, fo’th ddwg i’r lann,

myn allan dy gyfiownder:

Mor olau a’r haul hanner dydd,

fal hynny bydd d’eglurder.

7Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,

a heb ymddigiaw gronyn:

Er llwyddo’i ddrygddyn ei fawr fai,

yr hwn a wnai yn gyndyn.

8Paid â’th ddig, na ofidia chwaith:

gad ymaith wyllt gynddaredd:

Rhag i hynny dyfu i fod,

yn bechod yn y diwedd.

9Oherwydd hyn, disgwyl yr Ion,

gwyl ddiwedd dynion diffaith:

A disgwyl ef: meddianna’r tir,

a’r drwg f’oi torrir ymaith.

10Goddef y drygddyn dros dro bâch,

ni welir mwyach honaw,

Ti a gai weled y lle y bu,

heb ddim yn ffynnu ganthaw.

11Ond y rhai ufydd a hawddgâr,

y ddaiar a feddiannant:

Ar rhei’ni a thagnhefedd hir,

diddenir yn eu meddiant.

12Bwriada’r drygddyn o’i chwerw ddaint,

ar ddrygu braint cyfiownddyn:

13Duw yn ei watwar yntau a fydd,

sy’n gweled dydd ei derfyn:

14Ynnylu bwa, tynnu cledd,

yw trowsedd yr annuwiol,

Er llâdd y truan: fel dydd brawd,

i’r tlawd a’r defosionol.

15Ei fwa torrir yn ddellt mân,

a’i gledd a â’n ei galon:

16Mawr yw golud yr ysceler,

ond gwell prinder y cyfion.

17Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,

tyr freichiau’r rhai annuwiol,

Ac ef a gynnail yn ddi ddig,

y cyfion, ystig, gweddol.

18Sef ef edwyn Duw ddyddiau,

a gwaith pob rhai o berffaith helynt:

Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,

deg etifeddiaeth iddynt.

19Efe a’i ceidw hwynt i gyd,

na chânt ar ddrygfyd wradwydd:

Amser newyn hwyntwy a gânt,

o borthiant ddigonolrwydd.

20Y rhai traws enwir, heb ddim cwyn,

fel brasder wyn a doddant:

Caseion Duw fydd dynion drwg,

hwy gyda’r mwg diflannant.

21Y gwr annuwiol a fyn ddwyn

yn echwyn, byth ni thalai:

A’r gwr cyfion trugarog fydd,

ac a rydd, nis gommeddai.

22Sawl a fendigo Duw (yn wir)

y tir a etifeddan:

A’r rhai a felldithio, o’r tir

i gyd a fwrir allan.

23Duw a fforddia, ac a hoffa,

hyffordd y gwr calonnog:

24Er ei gwympo efe ni friw,

fo’i deil llaw Dduw ’n sefydlog.

25Aethym i bellach yn wr hen,

bum fachgen ’rwy’n cydnabod:

Ni welais adu hâd gwr da,

na cheisio’i bara ’ngherdod.

26Echwyn a benthyg cair bob dydd,

trugarog fydd y cyfion:

A'i hâd ef drwy y nefol wlith,

a gaiff o’i fendith ddigon.

27Arswyda ddrwg, a gwna di dda,

a chyfanedda rhag llaw:

28Cans Duw a gâr y farn ddidwn,

ninnau a roddwn arnaw.

Nid ymedy efe â’i Saint,

ceidw heb haint y rhei’ni:

Ond hâd yr annuwiolion gau

a ddont i angau difri.

29Y ddaear caiff y cyfion gwyl,

lle y preswyl byth mewn iawndeb:

30A’i enau mynaig wybodaeth,

a’i dafod traeth ’ddoethineb.

31Deddf ei Dduw y sydd yn ei fron,

a’i draed (gan hon) ni lithrant:

32Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,

ond ni chaiff yna ffyniant.

33Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,

nac er ei falais lidiog:)

Y gwirion yn ei waedlyd law,

i hwn ni ddaw barn euog.

34Gobeithia yn yr Arglwydd tau,

a chadw ei llwybrau’n gywir:

Cei feddiannu, cei uwch o radd,

a gweled lladd yr enwir.

35Gwelais enwir yn llym ei big,

a’i frig fel gwyrddbren lawri:

36Chwilais, a cheifiais yr ail tro,

’r oedd efo wedi colli.

37Ystyria hefyd y gwr pur,

ac edrych du’r cyfiownedd:

Di a gei weled cyfryw ddyn,

ma’i derfyn sydd tangnhefedd.

38A gwyl y rhai drwy drais sy’n byw,

ynghyd i ddistryw cwympant:

Fe a ddiwreiddir plant y fall,

i ddiwedd gwall, a methiant.

39Iechyd y cyfion sy o Dduw Ner,

a’i nerth mewn amser cyffro:

40Cymorth, ceidw, o ddrwg y tynn,

a hyn am gredu yntho.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index