Search form

Y Salmau 44

SALM XLIV

Expectans expectaui.

Gweddi y ffyddlon pan erlidiwyd, ar i Dduw faentymio ei achos cyfion.

1Clywsom â’n clustiau, (o Dduw cu)

a’n tadau fu’n mynegy

I ni, dy wyrthiau gynt a oedd

yn yr amseroedd hynny.

2Sef y cenhedloedd tynnaist hwy,

a’th bobl yn fwyfwy plennaist.

Llâdd estroniaid heb ado un,

a’th bobl dy hun a gedwaist.

3Cans nid â’i cledd eu hun yn wir,

y cowsant dir na thyddyn,

Nid â nerth eu breichiau yn fflwch,

y cadwyd heddwch iddyn:

Ond dy law ddeau, a’th fawr nerth,

a’th olwg prydferth effro,

O herwydd yt’ eu hoffi: hyn

a barodd iddyn lwyddo.

4Ti Dduw, fy mrenin ydwyd: o

Duw, pâr i Jago lwyddiant:

5Lladdwn a sathrwn yn d’enw di

y rheini a’n cassaant.

6Nid yn fy mwa mae fy ngrym,

na’m cleddyf llym f’amddiffyn,

7Ond tydi Dduw, achubaist fi,

a rhoist warth fri i’r gelyn.

8Am hynny molwn di bob dydd,

cai yn dragywydd fowredd.

Canwn i’th enw gerdd gan dant,

o glod a moliant ryfedd.

9Ond ti a giliaist ymaith beth,

daeth arnom feth a gwradwydd:

Nid ait ti allan gyd â’u llu,

cyfagos fu i dramgwydd.

10Gwnaethost i nyni droi heb drefn,

ein cefn at y gelynion.

Felly yr aeth ein da o’n gwlad

yn sclyfiad i’n caseion.

11Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)

ar wasgar i’r cenhedloedd.

12A gwerthaist dy bobl ar bris bach,

nid hyttrach dy oludoedd.

13Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)

i’n cymdogion gwrthrym:

A diystyrwch oll a gwarth

i bawb o bobparth ydym.

14Dodaist ni yn ddihareb chwith

ymhlith yr holl genhedloedd,

Ac yn arwydd i ysgwyd pen,

a choeg gyfatcen pobloedd.

15Fy ngwarth byth o’m blaen daw yn hawdd,

fy chwys a dawdd fy rhagdal,

16Gan lais gwarth ruddwr, cablwyr câs,

a gwaith galanas dial.

17Er dyfod arnom hynny i gyd

ni throes na’m bryd na’n cofion,

Ac ni buom i’th air (o Ner)

un amser yn anffyddlon.

18Ein calon yn ei hol ni throed,

ni lithrai’n troed o’th lwybrau:

19Er ein gyrru i ddreigiaidd

gell a’n toi a mantell angau.

20Os aeth enw ein Duw o’n co,

ac estyn dwylo’i arall.

21Oni wyl Duw y gaugred hon?

ein calon mae’n ei deall.

22O herwydd er dy fwyn yn wir

o Dduw, i’n lleddir beunydd,

Fal y defaid ymron eu llâdd,

fal dyna râdd y llonydd.

23O deffro cyfod, Dduw, mewn pryd:

pa’m yr wyd cyd yn gorwedd?

A dihuna, a chlyw fy nghri,

a chofia fi o’r diwedd.

24Paham y cuddi d’wyneb pryd?

o darbod hyn ein blinder,

Ein henaid mathrwyd yn y llwch

gan dristwch a gorthrymder.

25Wrth y llwch mae ein bol ynglyn,

fal dyna derfyn gwagedd.

26Duw, cyfod, cymorth, gwared ni

o egni dy drugaredd.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index