Search form

Y Salmau 58

SALM LVIII

Sivere utique.

Y mae efe yn gosod allan dull ei elynion, y rhai yn ddirgel a geisient ei ddifa ef: ac y mae efe yn troi at farn Duw, ac yn dangos y caiff yr union lawenydd pan gwymper y traws. A hyn er gogoniant i Dduw.

1Ai’r uniondeb (o bobloedd wych)

yr ydych yn ei ddwedyd?

A ydych chwi, o blant dynion,

yn barnu’r union hefyd?

2Hyttrach malais sy yn eich bron

ac ystryw calon dwyllgar:

A gwaith eich dwylo trowsder blin,

tra foch yn trin y ddaiar.

3Y rhai annuwiol aent ar gam,

o groth eu mam newidient,

Ac ar gyfeilorn mynd o’r bru,

a chelwydd fu a draethent.

4Un wedd a gwenwyn y sarph yw

y gwenwyn byw sydd ynddyn.

Neu’r neidr fyddar yn trofâu,

dan gau ei chlustiau cyndyn.

5Yr hon ni wrendy ddim ar lais,

na’r wers a gais y rhinwyr,

Nac un gyfaredd ar a wna

y cyfarwydda’ o swyn-wyr.

6Duw, torr eu dannedd yn eu safn,

diwreiddia’r llafn o dafod:

Duw dryllia’r bonau, a gwna’n donn

bob grudd i’r c’nawon llewod.

7Todder hwynt fel dwr ar y tir,

felly diflennir hwythau:

Os mewn bwa rhoesant saeth gron,

boed torri hon yn ddrylliau.

8Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdd

a malwen dawdd y todder:

Neu fel rhai bach ni welai’r byd,

o eisau pryd ar amser.

9Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,

cynt nac y llosgid ffagldan:

Tynn hwyntwy ymaith yn dy ddig,

cyn twymnai cig mewn crochan.

10A phan weler y dial hyn,

fo chwardd y glanddyn cyfion.

Pan fo rhydd iddo olchi eu draed

yngwaed yr annuwolion.

11Yna dywaid dynion fod iawn,

a ffrwyth i gyfiawn bobloedd:

A bod ein Duw yn farnwr ar

y ddaiar a’i therfynoedd.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index