Search form

Y Salmau 62

SALM LXII

Nonne Deo.

Dafydd yn dangos fod yn rhaid i bob cenedl ymddiried yn Nuw. Ac na thâl dim heb Dduw.

1Fy unig Dduw ydyw fy mlhaid,

mae f’enaid yn ei ddisgwyl,

Ohonaw ef, a thrwy ei rym

daw iechyd ym’ o’m hanhwyl.

2Duw yw fy nghraig, a’m unig nerth,

ac ymadferth fy einioes.

Ac am hyn drwy ymddiffyn hir

mi ni’m ysgogir eisoes.

3Ba hyd y mae’n eich bryd barhau,

i fwrw eich maglau aflwydd,

Lleddir chwi oll: gwthir yn llwyr

fel magwyr ar ei gogwydd.

4Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,

iw roi i lawr o’i fowredd:

Ar eu tafodau rhoi bendith

a melldith dan ei dannedd.

5Fy enaid dod (er hyn i gyd)

ar Dduw dy fryd yn ddyfal,

Ynto gobeithiaf fi er hyn,

efo a’m tyn o’m gofal.

6Sef craig ymddiffyn yw ef ym’,

fy’ nhwr, a grym fy mywyd:

Am hynny y credaf yn wir

na’m mawr ysgogir ennyd.

7Yn Nuw yn unig mae i gyd,

fy iechyd, a’m gogoniant,

Fy nghraig yw, a’m cadernid maith,

a’m gobaith yn ddilyssiant.

8Gobeithiwch yntho: gar ei fron

tywelltwch galon berffaith,

Ac ymddiriedwch tra foch byw:

a dwedwch, Duw yw’n gobaith.

9Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,

plant gwyr sydd hud a gwegi,

Gwagach na gwagedd yn eu fawl,

mewn mantawl wrth eu codi.

10Na rowch eich coel ar gam na thrais,

rhaid yw i falais drwccio:

Os cynnydda cyfoeth y byd

na rowch mo’ch goglyd arno.

11Duw a lefarodd hyn unwaith,

mi a glywais ddwywaith hynny,

Sef, mai Duw biau’r nerth i gyd,

gostyngiad byd, neu fynnu.

12O Arglwydd, ti hefyd a fedd

drugaredd a daioni,

I bawb dan gwmpas wybren faith,

yn ol ei waith y teli.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index