Search form

Y Salmau 63

SALM LXIII

Deus Deus meus.

Dafydd wedi dianc o Ziph yn diolch i Dduw am ei waredu, yn prophwydo dinistr gelynion Duw, a dedwyddwch y rhai a ymddiriedant yntho.

1Tydi o Dduw yw y Duw mau,

mi a geisia’n foreu attad.

Y mae fy enaid yn dra sych,

a’m cnawd mewn nych amdanad.

2Mewn lle heb ddwfr, mewn crinder crâs

ceisiais o’th ras dy weled,

Mal i’th welswn yn y Deml gynt,

ar helynt nerth gogoned.

3Cans dy drugaredd (o Dduw byw)

llawer gwell yw nâ’r bywyd:

A’m gwefusau y rhof yt fawl,

a cherdd ogonawl hyfryd.

4Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,

ac felly’th folaf etto,

Ac yn dy enw di sydd gu

y caf dderchafu’ nwylo.

5Digonir f’enaid fel â mer

a chyflawn frasder hefyd:

A’m genau a gân y moliant tau,

â phur wefusau hyfryd.

6Tra fwy fi yn fy fy ngwely clyd,

caf yn fy mryd dy gofio,

Ac yng wiliadwriaethau’r nos

câf achos i fyfyrio.

7Ac am dy fod yn gymmorth ym’,

drwy fawr rym’ dy drugaredd,

Fy holl orfoledd a gais fod

dan gysgod dy adanedd.

8Y mae f’enaid wrthyd ynglyn

dy ddeau sy’n ynghynnal.

9Elont i’r eigion drwy drom loes,

y rhai a’m rhoes mewn gofal.

10Syrthiant hwyntwy ar fin eu harf,

sy noeth er tarf i’r gwirion.

A chwedi eu meirw hwyntwy dod

yn fwyd llwynogod gwylltion.

11Ond y brenin yn enw ei Dduw

boed tra fo byw yn llawen:

A phawb a dyngo iw fowredd

a gaiff orfoledd amgen.

12Ond o’r diwedd y daw yn wir,

fe a dywelldir tywod,

I gau safnau y rhai y sydd

yn tywallt celwydd parod.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index