Search form

Y Salmau 64

SALM LXIV

Exaudi Deus.

Dafydd yn gweddio’n erbyn celwydd a chamgyhuddiad: er cysur i’r cyfion y mae yn dangos cospedigaeth yr enwir.

1O Arglwydd Dduw, erglyw fy llef,

a chlyw o’r nef fi’n erfyn:

O Dduw cadw fy einioes i

y sydd yn ofni’r gelyn.

2A chuddia fi dros ennyd bach

rhag cyfrinach y rhai drwg:

A rhag terfysg y rhai sy’n gwau,

i wneuthur cammau amlwg.

3Hogi tafodau fel y cledd,

a dwedyd bustledd ddigon,

Saethant ergydion i’m syrhau,

a’r rhai’n oedd eiriau chwerwon.

4I saethu’n ddirgel bigau dur,

yn erbyn pur ei galon,

Yn ddisymwth heb ofni neb,

a thrwy gasineb creulon.

5Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,

gan guddio’n gall eu rhwydau,

Yna y dwedant pwy a’n gwel

yn bwrw dirgel faglau?

6Gan chwilio dyfnder drygau trwch,

o fewn dirgelwch eigion:

A phawb iw gilydd yn rhoi nod

o geuedd gwaelod calon.

7Ond y mae Duw a’i saeth ynghudd,

rhydd yn ddirybudd ergyd,

Ef a dal adref yr hawl hon,

yn ddyfn archollion gwaedlyd.

8Gwaith y tafodau drwg lle y bo,

a fynn lwyr syrthio arnynt,

Pob dyn a’i gwel a dybia’n well

gilio ymhell o ddiwrthynt.

9Yna y dywaid pawb a’i gwel,

gwaith y Goruchel yw hyn,

Cans felly y deallant hwy

y cosbir fwyfwy’r gelyn.

10Ond yn yr Arglwydd llawenhâ,

ac y gobeithia’r cyfion:

A gorfoledda yntho’n iawn

pob dyn ag uniawn galon.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index