Search form

Y Salmau 71

SALM LXXI

In te Domine.

Gweddi (drwy ffydd) ar i Dduw ei waredu ef rhac ei fâb Absolon greulon.

1Mi a’mddiriedais ynod (Ner)

na’m gwradwydder byth bythoedd,

2Duw o’th gyfiownder gwared fi,

a chlyw fy nghri hyd nefoedd.

3Duw bydd yn graig o nerth i mi

i gyrchu atti’n wastad:

A phâr fy nghadw i yn well,

ti yw fy nghastell caead.

4Duw gwared fi o law’r trahaus,

a’r gwr trofaus, a’r trowsddyn.

5Ynot ti, Dduw bu ’ngoglud maith,

a’m gobaith er yn ronyn.

6O groth fy mam y tynnaist fi,

rhoist ynof egni etto,

I tithau fyth, am hyn o hawl,

y canaf fawl heb peidio.

7I lawer dyn bum anferth iawn,

ti yw fy nerthlawn lywydd.

8Fy safn bydd lawn o’th fawl gan dant,

ac o’th ogoniant beunydd.

9Nac esgeulusa fi na’m braint

yn amser henaint truan.

Er pallu’r nerth, na wrthod fi,

Duw edrych di ar f’oedran.

10Medd fy nghaseion r’wyf yn wann,

hwy a ddisgwilian f’anaf:

Ymgynghorasant yn ddi synn,

gan ddwedyd hyn am danaf:

11Duw a’i gwrthododd, (meddant hwy)

erlidiwch fwyfwy bellach:

A deliwch ef, nid oes drwy’r byd

yr un a’i gweryd baiach.

12Er hyn o frad, (Duw) bydd di well,

na ddos ymhell oddiwrthy.

Fy Nuw prysura er fy mhorth,

ac anfon gymmorth ymmy.

13Angau gwarthus pob rhai a gânt

a wrthwynebant f’einioes,

Gwradwydd a gwarth iddynt a drig,

a gynnig i mi ddrygloes.

14Fy ngobaith innau a saif byth

yn ddilyth a safadwy,

Ymddiried ynot (Dduw) a wnaf,

ac a’th foliannaf fwyfwy.

15Dy iechydwriaeth sy i’m genau,

yr hwn ni thau funudyn:

A’th gyfiawnder, ac ni wn i

ddim o’r rhifedi arnyn.

16Ynghadernid yr Arglwydd Dduw,

tra fwy fi byw y credaf:

A’th gyfiownder di hyd y brig,

yn unig hyn a gofiaf.

17Duw, di a ddysgaist i mi hyn,

do, er yn blentyn bychan:

A hyd yn hyn r’wyf yn parhau

i osod d’wrthiau allan.

18O Duw na wrthod fi yn hen,

a’m pen, a’m gen yn llwydo,

Nes i’m ddangos i’r rhai sy’n ol

dy wrthiau nerthol etto.

19Dy gyfiownder yn uchel aeth,

yr hwn a wnaeth bob mowredd,

Duw pwy y sydd debyg i ti?

nid ydym ni ond gwagedd.

20Duw gwnaethost di ym’ fyw yn brudd,

a gweled cystudd mynych,

Troist fi i fyw, dychwelaist fi,

drwy’ nghodi o’r feddrod-rych.

21Mwy fydd fy mawredd nag a fu,

troi i’m diddanu innau,

22Yna y molaf dy air am hyn,

ar nabl offeryn dannau.

O Sanct Israel, canaf hyn

ar delyn, ac â’m genau:

23Am ytty wared f’enaid i,

gwnâf i ti hyfryd leisiau.

24Canaf y’t hefyd gyfion glod

â’m tafod: wyt iw haeddu:

Am yt warthau a gwarthruddiaw,

fy ngwas sy’n ceisiaw ’nrygu.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index