Search form

Y Salmau 73

SALM LXXIII

Quam bonus Deus.

Dafydd yn dysgu i ddynion nad anghysurent er gweled llwyddiaut yr enwir, neu aflwyddiant y cyfion, yn y byd hwn, drwy ddangos mor ddisymmwth y diflanna y drwg, a maint gwobr y daionus.

1Ys da yw Duw i Israel,

wrth bawb a wnel yn union:

2Minnau llithrais, braidd na syrthiais,

swrth-wael fu f’amcanion.

3Cans cynfigennais wrth y ffwl,

ar dyn annuwiol dihir,

Braidd na chwympais pan y gwelais

eu hedd a’i golud enwir.

4Can nad oedd arnynt rwymau caeth

i gael marwolaeth ddynol,

Lle maent yn byw yn heini hyf,

yn iraidd gryf ddigonol.

5Ac ni ddoe arnynt lafur blin

hyd y bawn i’n eu deall,

Na dim dialedd, na dim gwyn,

fel y doe ar ddyn arall.

6Am hynny syth maent yn ymddwyn,

fel o fewn cadwyn balchder:

A gwisgant am danynt yn dynn

(megis dillad n) drowsder.

7A’i llygaid hwynthwy wrth dewhau

doent yn folglymmau drosodd:

A’i golud hwy, er hyn o wyn,

uwch meddwl dyn a dyfodd.

8Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,

a bostio hyn ar wasgar,

9Egori safn at wybren fry,

a thafod cry’ drwy’r ddaear.

10Am hyn rhai o’i bobl ef â chwant

a ymddychwelant yma,

Yn gweled y dwfr yn loyw lân

a thybio y cân eu gwala.

11Cans ymresymmant hwn yn fyw,

pa’m? ydyw Duw yn canfod

Pwy sydd yn ddrwg, a phwy sy’n dda?

ydyw’r gorucha’n gwybod?

12Wele y drygddyn mwya’i chwant

caiff fwyaf llwyddiant gwastad:

Yn casglu golud a mawr dda,

hwnnw sydd fwya’i godiad.

13Ofer iawn fu i mi warhau,

a llwyr lanhau fy nghalon:

Golchi fy nwylo, caru gwir,

a bod yn hir yn gyfion:

14Cael fy maeddu ar hyd y dydd:

ond trwstan fydd uniondeb,

Os y borau, ac os pryd nawn,

myfi a gawn wrthwyneb.

15Hyn os dwedwn, a feddyliwn,

o ryw feddalaidd ammau,

Wele, a’th blant di y gwnawn gam,

i ddwyn un llam a minnau.

16Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,

o nerth fy synwyr ddynol,

Hynny i’m golwg i oedd flin,

nes cael rhyw rin ysprydol.

17Ond pan euthym i gysegr Duw,

lle cefais amryw olau,

Yna deellais i pa wedd

y bydd eu diwedd hwythau.

18Gwybum i ti eu gosod hwy,

lle caent lam mwy’n y diwedd,

Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,

anialwch anghyfannedd:

19Ond gwedi dodaist iddynt wth,

disymmwth y pallasant,

Mynd o’r byd heb na lliw na llun,

o’i hofn eu hun darfyddant.

20Fel breyddwyd pan ddihunai un,

y gwnai di iddun f’Arglwydd,

O’r newid hon y caiff fy nghâs,

drwy yr holl ddinas wradwydd.

21Bum i ddig wrthyf fi fy hun,

ac oerni fu’n fy nghalon.

22Nas deallaswn hyn yn gynt,

bum ffol un hynt ac eidion.

23Er hyn etto bum gydâ thi,

lle i’m twysi yn ddilysiant

24Wrth fy llaw ddeau: wedi hyn

fy nerbyn i gogoniant.

25Pa’m? pwy (o Dduw) sydd gennyf fi

ond tydi yn y nefoedd?

Dim ni ddymunwn gydâ thi,

wrth weini daiar leoedd.

26Fy nghalon i, a’m nerth, a’m cnawd,

y sydd mewn palldawd beunydd,

Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan,

a’m tarian yn dragywydd.

27A elo ymhell oddiwrthyd ti,

y rhei’ni gwnaent yn ddiffaith:

Ac a buteiniant rhagot ti,

y rhei’ni torrir ymaith.

28Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw,

fy ngobaith yw i’m calon

29Y traethaf fi ei nerth, a’i wyrth,

o fewn dy byrth, merch Sion.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index