Search form

Y Salmau 78

SALM LXXVIII

Attendite populs.

Dangos ddarfod i Dduw ddethol ei eglwys o hâd Abraham annog y plant i gydnabod trugaredd Dduw, ac i gywilyddio dros aml ddrygau eu tadau; dangos gweithredoedd Duw.

1Fy mhobl i gyd gwrandewch fy neddf,

a boed fy ngreddf i’ch calon,

Clust ymostyngwch a’m genau,

i ystyr geiriau ffyddlon.

2Mewn diharebion, i barhau,

fy ngenau a egoraf:

A hen ddamhegion oedd ar hyd

y cynfyd a ddangosaf.

3Y rhai a glywsom gynt eu bod,

ac ym yn gwybod hefyd,

Ac a fynedodd yn ddiau,

ein tadau er y cynfyd.

4Heb gel mynegwn ninnau’n ffraeth,

hyn iw hiliogaeth hwythau:

Canmolwn Dduw i’r oes a ddel,

ei nerth a’i uchel wrthiau.

5Felly gorchmynnodd ef fod cof,

yn Jagof: ac i’r hynaf

Yn Israel ddysgu iw blant,

ogoniant y Goruchaf.

6Fel y gwypid o oes i oes,

y rhoes ef ei dystiolaeth:

O Dâd i fab, o fâb i wyr,

i gadw llwyr wybodaeth.

7Gobeithio’n Nuw, cofio ei waith,

y sydd mal rhaith eneidiol:

I gael cadw ei orchymmyn,

rhoes Duw’r wers hyn yn rheidiol,

8Rhag ofn mynd o’r genhedlaeth hyn

yn gyndyn ac anufydd:

A chalon wan, ac yspryd gwael,

heb afael gyda’i llywydd.

9Eu tadau, fel plant Ephraim,

yn arfog lym er saethu,

Troesant eu cefnau yn y gâd,

ymroi a dadynylu.

10Cyfammod Duw a wrthodent,

ni rodient yn ei Gyfraith,

11Anghofio’i wyrth a welsent gynt,

a’i ddeddfau oeddynt berffaith.

12Yn nhir yr Aipht: ym maes Zoan,

gwnaeth Duw gyflafan fwyfwy.

13Rhoi dwfr y mor yn ddau dwfr crych,

a’r llawr yn sych i drammwy.

14Y dydd mewn niwl, y nos a thân,

tywysai’n lân ei bobloedd:

15Holldi’r creigiau a’i troi’n llynniau,

a llenwi ei lu a dyfroedd.

16Er tynnu dwfr o’r garreg lâs,

er llithro’n loyw frâs ffrydau:

17Yn yr anialwch digient Dduw,

chwanegent amryw feiau.

18Yn y diffaithwch profent Dduw,

oes fwyd i fyw? meddylient:

19A all Duw gael i’n ymma fwyd,

mewn cyfryw lochwyd? dwedent.

20Er taro’r graig a rhedeg dwr,

yn ffrydau, cyflwr diball:

A eill efe roi i’n fara’ a chig,

i’n cadw yn ddiddig ddiwall?

21Pan glybu Duw yr araith hon,

fel tân yn wreichion nynnodd,

Yn Iago ac yn Israel,

gan lid yn uchel digiodd.

22A’i ddig oedd am na chredent hwy

i Dduw a’i fwyfwy fowredd,

Ac na welent pa iechyd oedd

yn ei weithredoedd rhyfedd.

23Gorchymmyn wybren, a’i gwarhau,

egoryd drysau’r nefoedd:

24A Manna’n fwyd, fel gwenith nef,

a lawiodd ef iw luoedd.

25Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,

sef bara yr Angylion:

26Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt,

gydâ’r deheuwynt nerthlon.

27Fel y llwch y rhoes gig iw hel,

ac adar fel y tywod:

28Ynghylch eu gwersyll a’i trigfydd,

y glawiai beunydd gawod.

29Bwyta digon o wledd ddiwael,

a chael eu bwyd dymunol:

30Ac heb ommedd dim ar eu blys,

nac mo’i hewyllys cnawdol.

31A’i tameidiau hwy iw safnau,

(ys ofnwn y Goruchaf:)

Yn Israel lladdodd iw ddig

wyr etholedig brasaf.

32Er hyn pechent, ac ni chredent,

iw iach radau rhyfedd:

33Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,

mewn dychryn ac oferedd.

34Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,

os ceisient dramwy atto:

Os doent drwy hiraeth at ei râs,

yn forau glâs iw geisio.

35Os cofient fod Duw iw holl hynt,

graig iddynt a gwaredydd:

36(Er ceisio siommi Duw’n y daith,

â’i gweiniaith, ac â’i celwydd:

37Er nad oedd eu calon yn iawn,

na ffyddlawn iw gyfammod:)

38Er hyn trugarhaei Duw o’r nef,

a’i nodded ef oedd barod.

Rhag eu difa, o’i lid y troes,

ac ni chyffroes iw hartaith:

39Cofiodd ddyn, os marw a wnai,

nas gallai ddychwyl eilwaith.

40Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy,

wrth fyned trwy’r anialwch?

Gan ddigio Duw a’i lwyr dristhau,

ynghreigiau y diffeithwch.

41Troesant, profasant Dduw â’i chwant,

gan demptio Sanct yr Israel:

42Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,

rhag cael o’i casddyn afael.

43Rhoesai’n yr Aipht arwydd o’i râs,

a’i wyrth yn ninas Zoan:

44Y modd y troes eu dwfr yn waed,

ni chaed dim glan-ddwfr allan.

45Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,

waed, gwybed, llau, a llyffaint:

46Lindys, locust, i ddifa’i ffrwyth,

a chenllysg lwyth, a mallhaint.

47Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt,

48Eu coedydd, a’i han’feiliaid: (gwydd)

A chenllysg cessair, mellt a roes,

bu wrth eu heinioes danbaid.

49Rhoes arnynt bwys ei lid, a’i fâr,

ac ing anghreugar digllon:

Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a’i wg,

anfonodd ddrwg angylion.

50Rhyw ffordd a hon iw lid a droes,

heb ludd iw heinioes angau,

Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,

yn ei ddigofaint yntau.

51Yna y tarawdd un Duw Naf

y plant cyntaf anedig:

Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,

sef am ei fod yn llawnddig.

52Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd,)

foi twysawdd drwy’r anialfan,

Fel arwain defaid, llwybrau pell,

yn wael ddiadell fechan.

53Arweiniodd hwyntwy yn ddiofn,

drwy’r mor (ffordd ddofn) heb wlychu:

A’i goll elynion heb fwy stor,

fe wnaeth i’r mor eu llyngcu.

54Rhoes hwy i etifeddu’n rhydd,

ym mynydd ei sancteiddrwydd:

Yr hwn a ddarfu ei warhau,

â llaw ddeau yr Arglwydd.

55Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwyth

rhoes i bob llwyth ei gyfran

O Israel, ac yn eu plaid, rhoi’r hen drigoliain allan.

56Er hyn temptient, a digient Dduw,

hwn unic yw sancteiddiol:

Ac ni fynnent mo’r ufuddhau,

iw dystiolaethau nefol.

57Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,

fel eu holl dadau twyll-naws:

Megis bwa a fai mewn câd,

ac yntho dafliad gwyrdraws.

58Hwyntwy yn fynych a’i cyffroent,

mewn camwedd troent oddiwrtho

At wylfa nos, a delw o bren,

fal hyn y digien efo.

59Ond y Gorucha’n gweled hyn,

a ddigiodd wrthyn hwythau:

Felly dirmygodd Israel,

a gadel ei ammodau.

60Yna’r ymadawodd efo,

â chysegr Shilo dirion:

Ei bebyll a’i brif ysgol ddysg,

lle’ buasai’ mysg ei ddynion.

61Ei nerth a roes i garchar caeth,

dan elyn daeth eu mowredd:

62Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,

(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)

63Ei wyr ieuainc fo’i rhoes i’r tân,

gweryfon glân rhoes heibio:

64Ei offeiriaid i’r cleddyf glâs,

a’i weddw ni chafas wylo.

65Yr Arglwydd gwedi hyn deffroe,

fal un a ddoe o gysgu:

Neu fal gwr cadarn wedi gwin,

yn erwin iw dychrynu.

66Taflodd y gelyn yn ei ol,

rhoes mewn tragwyddol wradwydd,

67Rhoes wyrion Joseph dan un pwyth,

ac Ephraim lwyth i dramgwydd.

68Gwedi chwilio y rhai’n i gyd,

fo roes ei fryd ar Juda:

Ar fynydd Seion (ei dretâd)

o gariad iw breswylfa.

69Yna yr adeiladodd ef

adeilad gref a howddgar,

Yn gysegr-lys byth i barhau,

fel hen seiliadau’r ddaiar.

70Etholodd ef Ddafydd ei was,

yr hwn oedd ddiflas fugail:

Ac a’i dug ef i maes yn lân,

o’i gorlan a’i ddefeid-gail.

71O borthi defaid mammau wyn,

iw ddwyn i borthi dynion:

Jagof, ac Israel, a’i plant,

dyna ei feddiant ffyddlon.

72Yntau a’i porthodd hwynt yn ol

ei berffaith reiol galon:

Ac a’i trinodd hwy yn brydferth,

o nerth ei ddwylaw cyfion.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index