Search form

Y Salmau 85

SALM LXXXV

Benedixisti Dom.

Er mwyn nad oedd Duw yn tynnu mo’i wialen oddiar ei Eglwys gwedi ei dyfod adref o Babel, maent hwy yn gyntaf iw goffau ef i orphen arnynt waith ei ras. Ac yn achwyn rhag eu hir gystudd, ac yn olaf, yn ymlawenychu yn eu gobaith o addewidion Duw.

1Da wyd i’th dir (Jehouah Ner)

dychwelaist gaethder Jago:

2Maddeuaist drowsedd dy bobl di,

mae’i camwedd wedi’i guddio.

3Tynnaist dy lid oddiarnom ni,

troist dy ddiglloni awchlym:

4(O Dduw ein nerth) tro ninnau’n well,

a’th lid bid bell oddiwrthym.

5Ai byth y digi wrthym ni?

a sori di hyd ddiwedd?

A saif dy lid o oes i oes?

Duw gwrando, moes drugaredd.

6Pam? oni throi di a’n bywhau,

a llawenhau yr eiddod?

7O dangos in’ dy nawdd mewn pryd,

felly cawn iechyd ynod.

8Beth a ddywaid Duw am danaf,

mi a wrandawaf hynny:

Fe draetha hedd iw bobl, a’i Sainct,

rhag troi ym mraint ynfydu.

9I’r rhai a ofnant Arglwydd nef,

mae’i iechyd ef yn agos:

Felly y caiff gogoniant hir,

o fewn ein tir ni aros.

10Ei drugaredd, a’i wirionedd,

ar unwaith cyfarfuant:

Ei uniondeb, a’i hedd ynghyd,

drwy’r tir a’mgydgusanant.

11Gwirionedd o’r ddaiar a dardd,

uniondeb chwardd o’r nefoedd:

12Duw a ddenfyn yn’ ddaioni,

a’n tir i roddi cnydoedd.

13Uniondeb oedd o flaen Duw nef,

a’r cyfion ef aed rhagddo:

A Duw a rodia yn ei waith,

fel i’r un daith ac efo.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index