Search form

Y Salmau 89

SALM LXXXIX

Misericordias.

Dafydd yn moli Duw am ei gyfamod, ac yn achwyn wacced oedd ei dyrnas: ac yn olaf y mae efe yn gweddio am ei wared o’i flinderau, ac yn dangos byrred oes dyn.

1Myfyriaf gerdd byth i barhau,

o drugareddau’r Arglwydd:

A'i wirionedd i’m genau fydd,

hyd dragywydd yn ebrwydd.

2Sef dwedais hyn: cair byth yn wir,

adeiledir trugaredd:

I barhau byth cair yn y nef

dy gadarn gref wirionedd.

3Fal hyn (o Dduw) attebaist ym’,

mi a wneuthym rwym gan dyngu

I Ddafydd f’etholedig wâs,

a’r gair o’m grâs yn tarddu.

4Fal hyn sicrhâf dy hâd di byth,

a gwnaf wehelyth drefniad.

I’th gadarn faingc o oed i oed,

mi a rof bob troed yn wastad.

5Am hyn y sicrwyd trag’wyddawl:

y nef o fawl dy wyrthiau:

Yngorsedd sainct, ynghyrchfa hedd,

am bur wirionedd d’eiriau.

6Pwy sydd cystal â’n harglwydd cu,

pe chwilid llu’r wybrennau?

Ymysg Angylion pwy mal Ion,

sef ymhlith meibion duwiau?

7Drwy gynulleidfa ei Sainct ef,

Duw o’r nef sydd ofnadwy:

A thrwy’r holl fyd o’n hamgylch ni,

i ofni sydd ddyladwy.

8Pwy sydd debig i ti Dduw byw,

o Arglwydd Dduw y lluoedd?

Yn gadarn Ior, a’th wir i’th gylch,

o amgylch yr holl nefoedd.

9Ti a ostyngi y mor mawr,

a’r don hyd lawr yn ystig:

10A nerth dy fraich curi dy gâs,

yr Aipht, fal gwâs lluddedig,

11Eiddod nef a daiar i gyd,

seiliaist y byd a’i lanw:

12Gogledd, deau, Tabor, Hermon,

sy dirion yn dy enw.

13I’th fraich mae grym’, mae nerth i’th law,

a’th gref ddeheulaw codi:

14Nawdd a barn yw dy orsedd hir,

a nawdd a gwir a geri.

15Eu gwnfyd i’r holl bobl a fydd,

a fo’i llawenydd ynod:

Ac yn llewych dy wyneb glân

y rhodian i gyfarfod.

16Yn d’unig enw di y cânt,

fawl a gogoniant beunydd.

Yn dy gyfiownder codi’ a wnânt,

ac felly byddant ddedwydd.

17Cans ti wyd gryfder eu nerth hwy,

lle y caffent fwy o dycciant:

Dydi a ddarchefi eu cyrn,

ac felly cedyrn fyddant.

18Cans o’r Arglwydd a’i ddaioni,

y daw i ni amddiffin:

O Sanct Israel drwy ei law,

oddiyno daw ein brenin.

19I’th sanct y rhoist gynt wybodaeth,

drwy weledigaeth nefol:

Gosodais gymorth ar gryf gun,

derchefais un dewisol.

20Cefais (eneiniais ef yn ol)

fy ngwâs dewisol Dafydd

21Ag olew sanct: Braich a llaw gref,

rhoist gydag ef yn llywydd.

22Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,

na’i ddrygu un mab enwir:

23O’i flaen y coetha’i elynion,

a’i holl gaseion dihir.

24Fy ngwirionedd, a’m trugaredd,

rhof fi trwy gariad iddo,

Ac yn fy enw fi ’yn ddi orn,

dyrchefir ei gorn efo.

25Gosodaf ei law ar y mor,

ac o’r goror bwygilydd:

A gosodaf ei law ddeau,

hyd terfynau’r afonydd.

26Ef a weddia arnaf fi

iw galedi, gan ddwedyd,

Ti yw fy nhad fy Nuw, fy ngharn,

yn gadarn o’m ieuenctyd.

27Minnau gwnaf yntau im yn fab,

yn gynfab ac etifedd:

Ar frenhinoedd y ddaiar las,

yn uwch ei ras a’i fowredd.

28A chadwaf iddo (yr un wedd)

drugaredd yn dragwyddol:

A’m cyfammod iddo yn llawn,

yn ffyddlawn, ac yn nerthol.

29Gosodaf hefyd byth i’w had,

nerth a mawrhâd uwch bydoedd

A’i orseddfainc ef i barhau,

un wedd a dyddiau’r nefoedd.

30Ond os ei blant ef (drwy afrol)

nid ânt yn ol fy nghyfraith,

Os hwy ni rodiant, gan barhau,

i’m beirn a’m llwybrau perffaith,

31Os fy neddfau a halogant,

ni chadwant fy holl eirchion,

32Yna ymwelaf a’i cam gwrs,

â gwiail scwrs, neu goedffon.

33Ond ni thorraf ag ef un nod,

o’m hammod a’m trugaredd:

Ac ni byddaf fi ddim yn ol,

o’m ystyriol wirionedd.

34Ni thorraf fy nghyfammod glân,

a ddaeth allan o’m genau,

Ac ni newidiaf air o’m llw,

mi a rois hwnnw’n ddiau.

35Yn fy sancteiddrwydd tyngais im’

na phallwn ddim i Ddafydd,

36Bydd ei had a’i drwn, yn ddi draul

o’m blaen fel haul tragywydd.

37Yn dragywydd y siccrheir ef,

fel cwrs (is nef) planedau

Haul neu leuad, felly y bydd

ei gwrs tragywydd yntau.

38Ond ti a’n ffieiddiaist ar fyrr,

ac yn ddiystyr lidiog

Di a gyffroaist yn dra blin,

wrth dy frenin eneiniog.

39Diddymaist di dy air i’th was,

a’th râs, a’th addewidion:

Ac a’i halogaist ef yn fawr,

gan daflu’i lawr ei goron.

40A drylliaist ei fagwyrydd ef,

a’i gaer gref rhoi’st yn adwy.

41Yn egored felly y mae

yn brae i bawb sy’n tramwy.

42Iw gym’dogion gwarthrudd yw ef,

a than law gref ei elyn:

A llawen iawn y codent floedd,

bob rhai a oedd i’w erbyn.

43Troist hefyd fin ei gleddau ef,

a’i law oedd gref a blygaist:

44Darfu ei lendid ef a’i wawr,

a’i drŵn i’r llawr a fwriaist.

45Pryd ei ieuenctyd heibio’r aeth,

a thi a’i gwnaeth cyn fyrred:

A bwriaist drosto wradwydd mawr,

o nen hyd lawr y torred.

46Pa hyd fy Nuw y byddi’ nghudd?

ai byth, fy llywydd nefol?

A lysg dy lid ti fel y tân

yn gyfan yn dragwyddol?

47O cofia f’oes ei bod yn fyrr,

ai’n ofer gynt y gwnaethost

Holl blant dynion? o dal dy law,

ac yn’ ni ddaw yn rhydost.

48Pa wr y sydd a’i oes dan sel,

na ddel marwolaeth atto?

Pwy a all ddiangc, ac ni ddaw

y caib a’r rhaw i’w guddio?

49O mae dy nodded Arglwydd gynt:

mae helynt dy drugaredd:

Mae dy lw, o ystyriol ffydd,

i Ddafydd i’th wirionedd?

50Cofia Arglwydd yn wradwydd llym’

lle’r ydym ni, dy weision.

Yr hwn a dawdd i’m monwes i,

gan ffrost y Cowri mowrion.

51Yr hwn warth ’r oedd d’elynion di

yt’ yn ei roddi’n eidiog,

(Fy Arglwydd Dduw) a’r un fyrrhâd

i droediad dy eneiniog.

52Moler yr Arglwydd byth: Amen,

a byth Amen, hyd fytho.

Moler yr Arglwydd byth: Amen,

a byth Amen, hyd fytho.

Salmau Cân 1621

© Cymdeithas y Beibl 2017

More Info | Version Index